Arwr pellgyrhaeddol

Roedd gweithredwr radio o hen blwyf Merthyr ger Caerfyrddin yn un o'r dynion nodedig a helpodd i ffurfio'r Gwasanaeth Awyr Arbennig (yr SAS) ym 1941. Roedd Thomas Myrddin Evans o Henfwlch yn signalwr yn y Long Range Desert Group, a gefnogodd ymosodiadau beiddgar ac arwrol, ac a ymddangosodd yng nghyfres deledu arobryn y BBC, 'SAS Rogue Heroes’.
Roedd Myrddin yn rhan o uned fach, elit o wirfoddolwyr yn Ymgyrch Gogledd Affrica, a fu'n cynnal patrolau rhagchwilio cudd a threiddgar a theithiau cudd-wybodaeth y tu ôl i linellau’r Almaen a’r Eidal. Ym mis Tachwedd 1941 cawsant y dasg o gasglu'r Capten David Stirling a thri deg o barasiwtwyr a fu'n ymosod ar feysydd awyr i'r gorllewin o Tobruk. Yn ddiweddarach, daeth un ar hugain o oroeswyr yn gnewyllyn i’r SAS. Oherwydd bod Myrddin a'r Grŵp yn arbenigwyr mewn mordwyo, fe'u penodwyd i arwain lluoedd arbennig ac asiantau cudd ar draws Anialwch y Gorllewin.
Sefydlwyd y Long Range Desert Group, neu’r LRDG, (y Patrol Long Range Rhif 1 oedd yr enw gwreiddiol) ym 1940 gan y Cadfridog Archibald Wavell, Cadlywydd Ardal Reoli'r Dwyrain Canol yn Alexandria. Daeth y syniad gan yr Uwchgapten Ralph Bagnold, a oedd eisiau dynion a oedd yn 'egnïol, arloesol, hunan-ddibynnol, yn gorfforol ac yn feddyliol galed ac yn gallu byw ac ymladd ymhell oddi wrth bawb a phopeth yn anialwch Libya’. Roedd gweithredwyr radio fel Myrddin o'r Corfflu Signalau Brenhinol, yn fedrus mewn cyfathrebu ac yn gallu cynnal a chadw ac atgyweirio eu hoffer heb unrhyw gymorth allanol.
Ym mis Rhagfyr 1941 cludodd yr LRDG yr SAS ddwywaith ar gyrchoedd ar feysydd awyr yr Axis, gan ddinistrio 151 o awyrennau a deg ar hugain o gerbydau. Yn ystod yr ail gyrch, yn Sirte, dyfeisiodd yr SAS ddull newydd o ymosod ar awyrennau wedi'u parcio. Yn hytrach na threiddio'r maes awyr yn dawel, fe wnaethon nhw yrru ar gyflymder rhwng rhesi o awyrennau, gan ymosod ar yr awyrennau gyda gynau peiriant a grenadau llaw. Helpodd hyn i amharu ar gyrch Cadlywydd yr Almaen Erwin Rommel, a gafodd yr enw 'Llwynog yr Anialwch’, i gyfeiriad yr Aifft. Mae'r cyrch yn Sirte i'w weld yng Nghyfres 1, Pennod 3 o'r gyfres ddrama deledu sydd wedi ennill Gwobr Bafta gyda Jack O'Connell, Alfie Allen a Dominic West.
Daeth Myrddin yn garcharor rhyfel, yn 32 oed, ym mis Rhagfyr 1942. Cafodd ei ladd pan ymosodwyd ar long filwyr Eidalaidd ym mis Ionawr gyda thorpido y flwyddyn ganlynol ac mae ei aberth i'w weld ar y gofeb ryfel yn eglwys Sant Martin a Sant Enfail ym Merthyr. Mae gor-neiaint a gor-nithoedd iddo yn y gymuned ffermio leol.