Cynhadledd Porvoo
Ers 1995 bu’r Eglwys yng Nghymru yn aelod o Gymundeb Porvoo, sy’n dod â nifer o eglwysi Anglicanaidd a Lutheraidd Ewropeaidd at ei gilydd, gan gydnabod dilysrwydd bywyd a gweinidogaeth pob aelod eglwys. Bob Hydref cynhelir cynhadledd breswyl ac eleni yr Eglwys yng Nghymru oedd yn trefnu a chroesawu, gan gyfarfod yng Nghanolfan Gynadledda hyfryd Cornerstone ar Heol Charles, Caerdydd. Yn ystod y Cymun Bendigaid agoriadol, llofnododd cynrychiolwyr o Eglwys Efengylaidd Lutheraidd Ynysoedd Ffaro Ddatganiad Porvoo a, thrwy hynny, dod yn aelodau llawn. Cynhadledd ddiwinyddol a gynhaliwyd eleni, a hynny er mwyn archwilio etifeddiaeth Cyngor Nicaea (325 O.C.), 1700 mlynedd ar ôl y gymanfa gyffredinol gyntaf honno yn hanes yr Eglwys.

![Porvoo 2a [signing]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Porvoo_2a_signing.width-500.jpg)
Prif sylw’r digwyddiad hynod arwyddocaol hwnnw oedd egluro’r ddealltwriaeth gywir o’r Arglwydd Iesu Grist fel “Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch,
gwir Dduw o wir Dduw”, geiriau a leferir o Sul i Sul wrth i addolwyr ledled y byd gydadrodd Credo Nicaea. Canolbwynt mewnbwn academaidd cynhadledd Caerdydd oedd darlith gyweirnod gan ddau ddiwinydd uchel eu clod o Gymru. Bu ysgolhaig y Testament Newydd, yr Athro Catrin Haf Williams, yn archwilio seiliau Beiblaidd y Credo tra bo cyn Archesgob Cymru ac Archesgob Caergaint, y Gwir Barch. Ddr Rowan Williams yn traethu ar “Nicaea, y Greadigaeth Newydd a Chorff Crist.” Yn ogystal, cafwyd papurau byrrach gan ddeg o’r cynadleddwyr eraill, gan ddod â phersbectifau eangfrydig rhyngwladol ar y themâu pwysig hyn.
Yn ogystal â’r gwaith dwys o feddwl, cafwyd cyfnodau o gydaddoli – gan gynnwys Gosber yn yr Eglwys Gadeiriol Gatholig - ac hefyd cyfleoedd i fwynhau prifddinas Cymru, gydag ymweliadau â Chastell Caerdydd a’r Senedd. Mwynhaodd y cynadleddwyr swper hyfryd a fu’n cynnwys cyfraniadau gan y Delynores Frenhinol, Mared Emyr Pugh-Evans, a myfyrwyr o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama wrth iddyn nhw gyflwyno traddodiad y Plygain. Dyma rai o berlau llenyddol a cherddorol Cymru sy’n datgan (yng ngeiriau’r emynydd clodwiw Ann Griffiths) cred ganolog yr eglwys bod “Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth a Rheolwr popeth sydd” wedi ei amlygu ym mhlentyn bychan Bethlehem. Gan hynny, llawenhawn.
Ainsley Griffiths