Y llawenydd o weddïo gyda'n gilydd
Heulwen Evans yw golygydd ein calendr ymbiliau
Pan ofynnwyd i mi gymryd y rôl o rhoi at ei gilydd y Calendr Ymbiliau’r esgobaeth bob mis, fy ymateb cyntaf oedd diolchgarwch — ac yna ymdeimlad o ryfeddod. Mae gweddi wastad wedi bod wrth wraidd fy mywyd gyda Duw, ac i gael y cyfle i helpu ein hesgobaeth i weddïo gyda’n gilydd yw bendith ac hefyd gyfrifoldeb sanctaidd.
I mi, nid yw gweddi erioed wedi bod yn ymwneud â dod o hyd i’r geiriau perffaith nac i wneud popeth “yn iawn.” Bu adegau yn fy ngweinidogaeth pan nad oedd gennyf eiriau o gwbl — dim ond ymdeimlad dwfn o angen, neu hiraeth i Dduw fod yn agos.
Dyna harddwch gweddi, rwy’n credu: mae mor syml, ac eto’n cyffwrdd â rhywbeth tragwyddol. Hi yw curiad tawel calon yr Eglwys — y ffordd yr ydym yn anadlu gras Duw i mewn, ac yn anadlu allan ein mawl, ein cwestiynau, a’n gobeithion. Pan weddïwn, nid ydym yn siarad i’r distawrwydd; rydym yn ymuno mewn sgwrs sydd wedi bod yn parhau ers dechrau’r greadigaeth.
Mae gweddi eiriolaethol, yn enwedig, yn ymddangos i mi fel un o weithredoedd mwyaf cariadus yr Eglwys. Pan weddïwn dros eraill — dros ein plwyfi, ein hysgolion, a’n byd — rydym yn uno ein calonnau â chalon Crist ei hun, yn sefyll rhwng poen a’r addewid, rhwng anghen dynol a thrugaredd dwyfol.
Nid yw’n ymwneud â datrys pethau, ond â’u ymddiried i nwylo Duw, gan gredu bod ein gweddïau, pa bynnag mor fach, yn cael eu cynnwys yng ngwaith mawr Duw o adnewyddu a gras.

Rwyf wedi bod yn y rôl hon ers bron i flwyddyn ac rwyf yn parhau i edrych ymlaen at wrando — ar Dduw, ar yr Ysbryd, ac ar guriad calon ein teulu esgobaethol.
Nid wyf yn dod at hyn fel arbenigwraig — nid oes yr un ohonom felly — ond fel rhywun sy’n credu’n ddwfn fod gweddi’n dal i newid pethau: ni’n hunain, ein heglwysi, a’n byd. A chredaf nad oes man gwell i ddechrau nag wrth weddïo gyda’n gilydd.
Os oes gennych anghenion penodol neu sefyllfaoedd yr hoffech eu cynnwys yng ngweddïau’r esgobaeth — efallai gweinidogaeth newydd rydych yn ei chychwyn, grŵp cymunedol, grŵp cartref, neu bryder arbennig — cysylltwch â mi, os gwelwch yn dda.
Byddai’n hyfryd gwybod fod pobl ledled Esgobaeth Tyddewi yn gweddïo dros ei gilydd, gan rannu yn y cylch mawr hwnnw o weddi sy’n ein cysylltu oll yng Nghrist.