Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Cychod bach – hafan ddiogel

Cychod bach – hafan ddiogel

Jake Lever [artist]

Yn ystod mis Awst, gwahoddwyd yr artistiaid gweledol o Birmingham, Jake a Gillian Lever, i fod yn Artistiaid Preswyl yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Jake sy’n myfyrio ar y profiad.

Dros y blynyddoedd mae Gillian a minnau wedi ymweld â'r eglwys gadeiriol a'r arfordir cyfagos sawl gwaith, gyda naws ysbrydol, hanes cyfoethog a harddwch anhygoel yr ardal yn ein denu. Felly, pan gawsom wahoddiad gan Janet Ingram, Swyddog Addysg a Phererindod yr eglwys gadeiriol, i fod yn Artistiaid Preswyl yr haf hwn, roeddem wrth ein bodd. Gweithiodd Janet yn agos gyda ni i drefnu'r cyfnod preswyl o bythefnos, gan ein plethu i mewn i'r rhaglen haf o weithgareddau tra hefyd yn rhoi ychydig o amser i ni ar ein pennau'n hunain.

Fel rhan o'r cyfnod preswyl, cefais wahoddiad i greu gosodiad celf dros dro yng Nghapel y Drindod Sanctaidd. Ar yr allor gosodais fflotila o gychod bach, aur, gosodiad o'r enw Hafan Diogel.

Cyfeiriai at y ffaith fod miloedd o bererinion, dros ganrifoedd, wedi defnyddio'r gofod hwn i ddiolch am deithiau diogel gan addoli yng nghysegrfa Tyddewi gerllaw. Roedd gallu dangos fy ngwaith mewn gofod mor hynafol a hardd yn bleser ac yn fraint enfawr.

Yn ystod ail wythnos ein cyfnod preswyl, fe wnaethom ni arwain tri digwyddiad yn yr eglwys gadeiriol: sgwrs am gelf a phererindod, gweithdy undydd galw-heibio i wneud bathodynnau pererinion ar gyfer teuluoedd a Phrynhawn Tawel i oedolion. Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar nifer o brosiectau rydyn ni wedi'u cynnal dros yr 20 mlynedd diwethaf gan gynnwys prosiect Soul Boats gydag Eglwys Gadeiriol Birmingham yn 2015 a phrosiect celf drwy’r post mwy diweddar a gynhaliais yn ystod y pandemig (wedi'i ysbrydoli gan Dewi Sant) o'r enw Gwneud y Pethau Bychain.

Cynhaliwyd gweithdy prysur iawn drannoeth ar gyfer plant, pobl ifanc yn eu harddegau, rhieni a gofalwyr. Wedi'u hysbrydoli gan draddodiad teithwyr canoloesol a oedd yn gwisgo bathodynnau i adnabod eu hunain fel pererinion, fe fuon nhw’n defnyddio cerdyn wedi'i ailgylchu a ffoil metel i wneud eu bathodynnau pererinion eu hunain. Roedd ein digwyddiad olaf yn fwy myfyriol. Gwahoddwyd cyfranogwyr i greu Cychod Enaid personol fel ffordd o fyfyrio ar daith bywyd a chafwyd rhannu twymgalon, dwfn ac agored iawn ymhlith y grŵp.

Bydd yr atgof o’r oll a brofwyd gennym yn Nhyddewi yn aros gyda ni am amser hir iawn a bydd yn sicr yn llywio ein gwaith creadigol wrth symud ymlaen. Cafodd Gillian a minnau groeso mor gynnes gan bawb i ni gyfarfod â nhw yn Nhyddewi, ond hoffem ddiolch yn arbennig i Janet Ingram a wnaeth y cyfnod preswyl hwn yn bosibl, diolch i’w gweledigaeth, ei sgil a'i gwaith caled anhygoel. Gallwch ddysgu mwy am waith Jake a Gillian yn www.leverarts.org