Parciau yn llawn llawenydd
Yn ystod yr haf, trawsnewidiwyd pedwar parc yn Ardaloedd Gweinidogaeth Bro Gwendraeth a Bro Aman yn hafanau bywiog o greadigrwydd a chwerthin, mewn cyfres o wib-ddigwyddiadau yn llawn llawenydd a ddaeth â theuluoedd, gwirfoddolwyr a phlant lleol at ei gilydd. Michelle Lloyd oedd y tu ôl i'r digwyddiad hwn.
Ymunodd 215 o blant yn y cyffro, gan fwynhau gweithgareddau thematig, crefftau, gemau, a bagiau byrbryd maethlon – gyda phopeth am ddim.
O'r cychwyn cyntaf, roedd yr awyrgylch yn un o edrych ymlaen mawr a hapusrwydd. Roedd gan bob sesiwn thema unigryw i danio'r dychymyg a meithrin ymdeimlad o berthyn ymhlith y plant.
Lansiwyd yr wythnos gyntaf gyda digwyddiad archarwyr heb ei ail. Fe wisgodd mynychwyr ifanc fantell a masgiau, gan gofleidio eu pencampwyr mewnol a dysgu am ystyr archarwr a chlywed pam mai Iesu yw archarwr Michelle.
![Park Pop Ups 1 [David+Goliath].](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Park_Pop_Ups_1_DavidGoliath.width-500.jpg)
![Park Pop Ups 2 [Noahs Ark]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Park_Pop_Ups_2_Noahs_Ark.width-500.jpg)
Gwelodd Wythnos Dau y plant yn camu i mewn i naratif hynafol Dafydd a Goliath. Gyda chrefftau o gleddyfau a tharianau a thaflwyr pompom a gemau wedi'u hysbrydoli gan y stori hon o ddewrder a ffydd, roedd y parc yn llawn chwerthin iach wrth i’r plant ymladd eu brwydrau chwareus eu hunain a gwrando'n astud yn ystod amser stori.
Daeth wythnos tri â'r gyfres i ben yn un sbloets o liw a gobaith gyda hanes Arch Noa. Bu’r plant yn creu masgiau anifeiliaid, yn adeiladu archau bach allan o Lego, ac yn dysgu am ddangos caredigrwydd a gofal i bob creadur. Roedd yr egni creadigol yn amlwg, gyda phob plentyn cyflwyno’u gweledigaeth a’u doniau eu hunain i'r crefftau a'r gweithgareddau.
Un o nodweddion y gwib-ddigwyddiadau yn y parciau oedd yr amrywiaeth o stondinau creadigol ym mhob lleoliad. Roedd gwirfoddolwyr yn gosod byrddau a oedd yn llawn adnoddau lliwgar, gan annog plant i ymgolli yn y celf a’r crefft. Roedd yna fasgiau archarwyr wedi'u paentio'n llachar, breichledau cyfeillgarwch â gleiniau, a chreadigaethau Lego i gyd yn rhan o’r tapestri o ddyfeisgarwch a chydweithrediad.
Gweithiodd y plant gyda'i gilydd i adeiladu tyrrau a llongau, gan rannu syniadau a helpu ffrindiau a newydd-ddyfodiaid fel ei gilydd. Roedd y stondin gwneud breichledau yn arbennig o boblogaidd, gydag artistiaid ifanc yn arddangos eu darnau gorffenedig gyda balchder, a llawer yn dewis gwneud breichledau ychwanegol i frodyr a chwiorydd neu i rieni. Mae'r crefftau nid yn unig yn sbarduno creadigrwydd ond hefyd yn meithrin cysylltiadau cymdeithasol ac ymdeimlad o gyflawniad.

Ni fyddai unrhyw wib-ddigwyddiad yn y parc yn gyflawn heb y cylch amser stori, lle'r oedd gwirfoddolwyr a threfnwyr yn casglu'r plant ynghyd ar gyfer adegau o ryfeddod tawel a myfyrio. Cafwyd straeon am archarwyr, rhyfelwyr hynafol, ac am anifeiliaid anturus, gyda gwersi am gyfeillgarwch, gwydnwch a gobaith yn plethu drwy’r cyfan.
Roedd gemau - clasurol a thematig - yn llenwi'r prynhawniau â symudiad a llawenydd. Ffefrynnau fel pêl-droed a phêl-foli a gemau newydd wedi'u cynllunio i gyd-fynd â thema’r wythnos. Roedd y plant yn cefnogi ac annog ei gilydd, yn dysgu sgiliau newydd, ac yn darganfod gwerth gwaith tîm a chwarae teg. Roedd chwerthin afieithus y plant yn rhedeg ar y glaswellt yn dyst i bŵer chwarae wrth adeiladu cymuned. Roedd cariad Duw yn disgleirio drwy’r cwbl.