Gwyfynod? Yn y gaeaf? Wir?
Mae'n debyg bod ‘na rai, yn ôl Harriet Carty o Gofalu am Erw Duw
Mae'n ymddangos yn adeg ryfedd o'r flwyddyn i fod yn chwilio am wyfynod ond mae yna ambell rywogaeth wydn sy'n benderfynol o herio tywydd y gaeaf!
Mae gan y Gwyfyn Rhagfyr a'r Gwyfyn neu Frynach Gaeaf ffyrdd gwahanol o ymdopi. Mae'r Gwyfyn Rhagfyr yn lapio'n gynnes; mae ganddo gôt o ennau tebyg i flew, sy'n gwneud iddo edrych yn flewog, ac sy'n ei helpu i ddal y gwres fel y gall fod yn egnïol a hedfan. Ar y llaw arall, mae'r Gwyfyn Gaeaf yn gallu hedfan pan fydd tymheredd ei gorff yn is. Mae ganddo adenydd mawr cain a chorff bach, ac mae maint ei adenydd yn golygu nad oes angen iddo eu symud cymaint i aros yn yr awyr.

![Winter Moth [Male]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Winter_Moth_Male_.width-500.jpg)
Ni fydd y naill na'r llall yn bwydo pan fyddan nhw’n hedfan; maen nhw’n dibynnu ar gronfeydd bwyd a grynhowyd fel lindys. Mae'r cyfnod oedolyn wedi'i neilltuo i chwilio am gymar ac, yn achos y fenyw, i ddodwy wyau. Mae gwrywod a benywod y Gwyfyn Rhagfyr ill dau yn hedfan, gyda'r fenyw yn fwy o ran maint na'r gwryw, ond dydy benywod Gwyfyn y Gaeaf ddim yn hedfan. Maen nhw’n dod allan o chwiler yn y pridd ac yn ymlusgo i fyny coeden gerllaw.
Yno, maen nhw'n allyrru fferomonau i ddenu gwrywod ac yna aros iddyn nhw gyrraedd. Mae'r ddwy rywogaeth o wyfynod yn dodwy eu hwyau ar frigau gaeaf coed llydanddail gan gynnwys coed derw, bedw, draenen wen a’r helygen. Mae'r wyau'n deor pan fydd y coed yn deilio, gan roi llawer o ddail ifanc, meddal i'w bwyta.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn fwy cyfarwydd â lindys gwyfynod Rhagfyr a’r Gaeaf nag â'r oedolion. Mae lindys Gwyfyn Rhagfyr yn frychfrown, wedi'i guddliwio'n dda pan fydd ar frigau a rhisgl tra bod lindys Gwyfyn y Gaeaf yn wyrdd llachar, lliw dail newydd. Efallai eich bod wedi gweld y tyllau mewn dail, diolch i’w harchwaeth farus, neu wedi gweld lindys yn hongian o geg aderyn, yn barod i’w fwydo i gywion yn y nyth. Er y gellir gweld y gwyfynod llawn dwf ar adeg o'r flwyddyn pan nad oes llawer o ysglyfaethwyr o gwmpas, gydag ystlumod yn y gaeaf, mae'r lindys yn ffynhonnell brotein gynnar a phwysig yn y gwanwyn, yn enwedig ar gyfer adar bridio.
Mae gwyfynod yn cael eu tynnu at oleuadau a all eu lladd neu eu tynnu oddi wrth chwilio am gymar a dodwy wyau. Meddyliwch am eich goleuadau awyr agored, gan eu cadw i'r lefel sy’n ofynnol ar gyfer sicrhau mynediad diogel i chi. Ond efallai y byddan nhw’n eich helpu i gadw llygad am wyfynod pan fyddwch chi allan yn ystod nosweithiau hir y gaeaf.