Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Gem Fach

Gem Fach

Caroline Evans yn ymweld â sbloets o liw ger Pontargothi

Holy Trinity Pontargothi Ext.jpg

Wrth weld Eglwys y Drindod Sanctaidd restredig Gradd II* ger Pontargothi am y tro cyntaf, fe ges i dipyn o sioc - sut roedd eglwys a oedd yn edrych fel y dylai fod yn swatio ar odre mynydd yn y Swistir fod yno ar wastadedd afon Tywi yng Ngorllewin Cymru?

A finnau’n ddigon ffodus i gyrraedd yng nghanol prosiect cadwraeth/adfer mawr o'r tu mewn gan CADW, fe ofynnon nhw a hoffwn i gael cip y tu mewn ac roedd yr hyn welson ni’n syfrdanol. Mae'r tu mewn i gyd wedi'i orchuddio â phaentiadau, murluniau sy'n gyfoethog o liw, symudiad a straeon.

Roedd yr hyn ddysgais i wedyn am hanes sut y daeth y lle i fod yn ddiddorol tu hwnt – sefydlwyd Henry Bath and Co tua 1794 gan deulu o Grynwyr o Gernyw a ymfudodd i Abertawe gan adeiladu busnes copr a llongau mawr. Roedd Henry James Bath [ŵyr yr Henry gwreiddiol] wedi prynu dros fil o erwau o dir yn lleol ac wedi adeiladu plasty iddo'i hun, gan ei alw'n Alltyferin ar ôl y 165 erw cyntaf a brynodd.

Pontargothi Murals

Gyda’r plasty wedi’i ddymchwel yn y 1960au, does dim yn weddill ond Capel y Drindod Sanctaidd. Yn ôl y sôn, doedd Henry na fawr o’i staff ar yr ystad yn siarad Cymraeg, ac er iddo ef a'i wraig ariannu eglwysi lleol, doedden nhw ddim yn gallu deall y gwasanaethau. Comisiynodd Henry yr adeilad ar gyfer unrhyw un a oedd yn dymuno addoli drwy gyfrwng y Saesneg.

Comisiynodd y teulu Bath gwasanaethau'r pensaer a'r artist enwog, Benjamin Joseph Bucknall, i adeiladu capel i'w manyleb. Gan ddechrau ym 1865, ni chysegrwyd y Capel tan 1878, oherwydd marwolaeth gynamserol Henry James Bath ym 1875. Parhawyd â'r gwaith gan ei nai, a fu farw hefyd cyn ei gwblhau, ac yna fe’i cwblhawyd gan Mrs Bath, er cof am yr ymadawedig.

Mae pob arwyneb gweladwy wedi’i addurno â golygfeydd Beiblaidd gan Arthur Stansell o Taunton, o arwynebau'r waliau, y bwâu a'r mowldiau i'r nenfydau casgen bren, gyda phob elfen yn cyfrannu at yr effaith addurniadol. Mae'n lle hardd, ac yn enghraifft bwysig o gynllun eglwys yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r ffenestri gwydr lliw lliwgar [Clayton and Bell] yn darlunio aelodau o’r teulu Bath.

Cynhelir gwasanaethau rheolaidd, ac yn ystod yr haf mae ar agor i ymwelwyr ar ddyddiau Iau rhwng 2 a 4pm. Gellir trefnu ymweliadau grŵp gyda the a bisgedi. Cysylltwch â Warden yr Eglwys Nelly Jones ar 01267 290522 os hoffech gip ar y tu mewn.

Cod post SA32 7PA

Cyfeirnod Grid yr AO SN 5097 2260