Boed i’r clychau seinio!
Ar ôl blynyddoedd lawer o godi arian, mae clochyddion Eglwys y Santes Fair, Penfro, wedi cyrraedd eu targed o’r diwedd ac mae cynllun uchelgeisiol ar waith i adfer clychau’r eglwys i gyflwr digon da i’w defnyddio. Mae Capten y Tŵr, Anne Bunker, wrth ei bodd.
Grant o £154,000 gan Gyngor Sir Penfro o Gronfa Ffyniant Bro wnaeth y gwahaniaeth yn y pen draw.
Bydd cyfraniad y Gronfa Ffyniant Bro yn ein galluogi i godi’r clychau yn ôl i ben y tŵr a’u canu eto erbyn y flwyddyn newydd, os ydyn ni’n dal ati â’r gwaith caled.
Mae clychau wedi canu yn eglwys y Santes Fair ers y 1760au, ond roedden nhw wedi cael rhwydd hynt i ddirywio i gyflwr ofnadwy. Gydag enw am fod yn heriol i’w canu ac allan o diwn, roedd angen gwaith sylweddol ar y clychau i’w hachub a’u gwella i’r safon y mae’r tŵr Normanaidd hanesyddol yn ei haeddu.
![Pembroke bells [casting]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Pembroke_bells_casting.width-500.jpg)
Braint i glochyddion Penfro, cyfranwyr, cefnogwyr, Marcia – warden eglwys y Santes Fair – a swyddogion Urdd Clochyddion Esgobaeth Tyddewi oedd gweld y tair cloch newydd yn cael eu bwrw yn ffowndri John Taylor yn Loughborough.
Mae’r mwyaf o’r tair yn disodli’r hen ail gloch, a oedd yn canu allan o diwn gyda’r saith arall. Cafodd yr hen ail gloch ei bwrw gan Charles a John Rudhall o Gaerloyw ym 1784, a bydd yn cael ei chadw fel cloch addysgu.
Mae gweld y clychau trebl a’r ail gloch yn cael eu bwrw wrth ymyl ei gilydd yn goffadwriaeth barhaol i gyfraniad dau deulu i glochyddiaeth ym Mhenfro a’u hymroddiad i’r grefft hynafol o ganu’r amrywiadau.
Mae’r gloch drebl newydd wedi’i chysegru i’r teulu Lingard; mae deg aelod o’r teulu wedi canu’r clychau yn Eglwys y Santes Fair yn ystod y 65 mlynedd diwethaf, a rhai yn dal wrthi hyd heddiw.
Cafodd y drydedd gloch ei bwrw yn enw Lesley Morgan. Dysgodd ei gŵr Christopher sut i ganu clychau yn ei arddegau, a dychwelodd i wneud hynny yn Sir Benfro ar ôl bwlch o 46 mlynedd. Yn ddiweddar, dechreuodd Lesley astudio’r grefft i ymuno â’i gŵr, ac maen nhw bellach yn canu’r clychau gyda’i gilydd yn Aberteifi. Mae’r gloch yn ddathliad o gariad, ac yn nodi 46 mlynedd o berthynas a phriodas.
Mae’r clychau i gyd bellach wedi’u tiwnio, ac mae pythefnos o waith caled gan y crogwr clychau Peter Hayward a thîm o wirfoddolwyr yn gosod tri llawr newydd yn golygu bod y tŵr bellach yn barod i letya’r clychau newydd. Yn y cyfamser, mae gwaith ar y gweill i greu fframiau’r clychau, bwrw’r berynnau a chreu olwynion a rhannau newydd eraill.