Dysgu Cymraeg
Mae Anne May yn llawenhau mewn hobi sydd wedi dod yn alwedigaeth

Ynganwch y gair 'Croeso' yn uchel. Pwysleisiwch y llythyren 'r' a'i rholio ar flaen eich tafod.
Hwn yw gair llawn gobaith sy’n cynrychioli:
- clwstwr pinc o friallu a syfi coch melys sy’n cwato mewn cloddiau’r haf
- ŵyn newydd-anedig yn prancio a brefu
- bachgen pedair oed, yng nghesail glyd ei fam-gu annwyl
Os hoffech chi fod yn siaradwr newydd slic, mae rhaid i chi fod yn ddewr. Os bydd rhywun yn troi i'r Saesneg yng nghanol sgwrs, trowch yn ôl i’r Gymraeg yn glou.
Bues i ar ben fy nigon yn ferch pum mlwydd oed yn Ysgol Ceinewydd wrth ganu fy hoff linell
‘Ac-nac-ar-wain-ni-i-bro-fed-ig-aeth’ nerth fy mhen, bob bore am saith mlynedd heb ddeall gair.
Yn Ysgol Uwchradd Aberaeron, heb os, y ffordd orau o ladd iaith leiafrifol oedd gorfodi disgyblion i wrando ar iaith Feiblaidd a ysgrifennwyd yng nghyfnod William Morgan.
Cefais fy ngwers Cymraeg orau erioed gyda phlentyn pump oed heb gynulleidfa feirniadol o’n cwmpas. Fydda i byth yn dweud Ysgol Meithrin na Chyrens Du eto!
Darllenwr brwd ydw i ac mae'r silffoedd yn ein tŷ ni'n llawn dop. Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis yw fy hoff nofel. Beth am gael blas ar farddoniaeth hefyd. Dw i wrth fy modd yn dysgu cerddi ar gof: Iaith gan Dic Jones ac Eifionydd gan R Williams Parry.
Ife breuddwyd gwrach imi gredu byddai’n bosibl cael fy aileni o’r Pair Dadeni, nid yn fud ond yn siarad yn gwmws fel y bytholwyrdd Siân Phillips. Mae gen i lot o waith i’w wneud!
Mae llwyth o bodlediaid ar gael, a rhywbeth ar ddant bawb. Y peth gorau am dechnoleg fodern yw’r ffaith bod chi’n gallu ail-wrando ar bob pennod.
Efallai mai’r peth mwyaf heriol ar y daith yw’r ffaith bod pawb yn gallu siarad Saesneg?
Felly, beth am ddilyn esiampl Toni Bianchi a ddaeth i Brifysgol Llambed o ogledd Lloegr. Er mwyn ennill ei blwyf, wnaeth Tony esgus ei fod e’n Eidalwr, heb air o Saesneg!
Er gwaetha’r ffaith fy mod i’n siarad fel pwll y môr, daeth y sbardun ar gyfer ysgrifennu o le tywyll iawn. Cyrhaeddais y gwaelod yr adeg hon. Trwy gydol y cyfnod erchyll roedd y broses o lenwi tudalen wag yn llesol iawn. Heddiw, dw i’n defnyddio geiriau Cymraeg fel tarian yn erbyn y byd.
Rhybudd! Hyd y gwn i does dim llwybr tarw i lwyddiant, felly, dyfal donc a dyrr y garreg.
Wrth i mi ymestyn am Eiriadur Bruce am y canfed tro'r wythnos hon, mae'n hen bryd i mi gyfaddef nid diddordeb yw dysgu Cymraeg bellach, ond galwedigaeth.