Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 YN FY MARN I

YN FY MARN I

Clerig wedi ymddeol – ased anghofiedig?

Mae Jeremy Martineau yn ofni bod blynyddoedd o brofiad gweinidogol mewn perygl o gael eu colli.

Retired Clergy Cipart.png

How are Retiring and Retired Clergy Supported? Mapping the Provision that the Church of England Offers to Ministers Facing Retirement and in Retirement yw teitl erthygl dreiddgar a defnyddiol yn rhifyn cyfredol Rural Theology.

https://www.tandfonline.com/toc/yrur20/23/1

Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar wefannau esgobaethol esgobaethau Lloegr. Mae’n dangos cystal yw ymagwedd y rhan fwyaf o esgobaethau at rôl clerigion wedi ymddeol, gan gydnabod bod mwy wedi ymddeol nag sydd mewn gweinidogaeth drwyddedig.

Mae Cyngor yr Archesgobion yn dirnad ordeinio i'r offeiriadaeth fel galwedigaeth gydol oes. Mae'r weinidogaeth hon yn dra gwahanol ar ôl ymddeol. Efallai na fydd caniatâd i weinyddu yn cwmpasu'r cyfleoedd y gall clerigion wedi ymddeol ymwneud â nhw.

Mae hyn yn codi cwestiwn ynghylch ymagwedd Esgobaeth Tyddewi tuag at y clerigion sydd wedi ymddeol sy'n byw yma. Os yw gwefan yr esgobaeth yn fesur o fath yn y byd, yna'r ateb yw nad yw clerigion sydd wedi ymddeol yn cyfri fawr ddim. Mae'r buddsoddiad mewn hyfforddiant diwinyddol a blynyddoedd o brofiad gweinidogol mewn perygl o gael ei golli ar ôl ymddeol.

Mae'r rhan fwyaf o esgobaethau Lloegr wedi penodi Person Cyfrifol Dynodedig i ddarparu gofal a chefnogaeth i'r rhai sydd wedi ymddeol gan gydnabod nad peth da yw ystyried clerigion sydd wedi ymddeol fel rhyw rai fydd yn camu i’r adwy’n unig pan fydd y clerigion cyflogedig i ffwrdd neu'n sâl. Dylai Personau Cyfrifol Dynodedig neu Swyddogion Clerigion wedi Ymddeol o'r fath fod yn rhan greiddiol o'r tîm staff oherwydd gellid ystyried y rhai sydd wedi ymddeol fel ased ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys, gan nad ydyn nhw bellach wedi’u clymu gan gyfrifoldebau eu plwyf.

Mae Esgobaeth Caerlŷr yn cynnwys gweinidogion wedi ymddeol yn ei strategaeth Shaped by God er twf hirdymor. Mae Esgobaeth Truro yn adrodd yn anecdotaidd bod llawer o fywoliaethau aml-eglwys gwledig yn dibynnu ar glerigion wedi ymddeol er mwyn derbyn gweinidogaeth gofal ac addoliad barhaus.

Mae'r erthygl yn cydnabod ystod o ystyriaethau i glerigion sy'n wynebu ymddeoliad neu sydd wedi ymddeol: ystyriaethau ynghylch tai, colli statws cymdeithasol, symud i amgylchedd newydd, colli rôl. Mae effaith ymddeol yn dechrau ymhell cyn dyddiad yr ymddeoliad. Mae llawer o esgobaethau yn defnyddio'r cyfnod hwn i baratoi ar gyfer y newidiadau a ddaw wrth ymddeol.

A dyna fyrdwn y darn hwn, sef eich annog i ddarllen yr erthygl lawn yn Rural Theology (Cyfrol 23 Rhif 1 2025) ac i'n hesgobaeth ailystyried y cyfraniad cadarnhaol y gall clerigion wedi ymddeol ei wneud i genhadaeth yr Eglwys.