Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Gobaith yn sgil Trasiedi

Gobaith yn sgil Trasiedi

Theresa Haine sy’n disgrifio sut mae cyllid elusennol wedi dod â chymorth sy’ achub bywydau i bentref ym Madagascar

Mae Ambohidava yn un o bum pentref sydd wedi'u lleoli ar un ochr i orlifdir naturiol mewn ardal anghysbell o ucheldiroedd canol Madagascar. Mae yna ysgol gynradd yn y pentref ond roedd yr unig ysgol uwchradd mewn tref chwe milltir i ffwrdd ar ochr arall y dyffryn.

Arferai’r plant hŷn golli tri mis o addysg bob blwyddyn oherwydd llifogydd yn y tymor glawog. Boddodd tri phlentyn yn 2012 yn ceisio mynd i'r ysgol.

Madagascar Ambohidava

Darparodd yr Elusen Money for Madagascar arian i adeiladu ysgol uwchradd newydd yn Ambohidava.

Mae'r ffordd i'r pum pentref bron yn amhosib i’w theithio hyd yn oed fisoedd ar ôl i'r glaw orffen ac roedd cludo'r deunyddiau ar gyfer adeiladu’r ysgol yn dipyn o her!

Madagascar yw un o'r gwledydd tlotaf yn y byd ac, er bod addysg yn ddamcaniaethol yn rhad ac am ddim, dim ond un neu ddau o athrawon fydd y wladwriaeth yn eu talu. Felly, os yw'r rhieni eisiau i'w plant ddysgu mewn dosbarthiadau gyda llai na thua 80 o ddisgyblion fesul dosbarth, bydd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i'r arian i dalu'r athrawon ychwanegol eu hunain. I deuluoedd gwledig tlawd mae hyn yn faich trwm iawn ac roedd dod o hyd i'r arian i adeiladu ysgol newydd allan o'r cwestiwn nes i MfM gamu i'r adwy.

Fe wnaethom ni hefyd ariannu hyfforddiant ar gyfer athrawon Ambohidava mewn addysg amgylcheddol. Un canlyniad uniongyrchol oedd eu bod nhw a'u disgyblion wedi dechrau gardd lysiau yn yr ysgol a’u gobaith yw defnyddio eu llysiau eu hunain mewn ciniawau ysgol pan fydd y rhieni yn gallu fforddio adeiladu ffreutur yno. Maen nhw hefyd wedi plannu gwrych o amgylch maes chwarae eu hysgol.

Mae'r dyfodol bellach yn llawer mwy disglair i blant yn yr ardal honno.