Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Anrhydeddu'r Rhai a Gwympodd

Anrhydeddu'r Rhai a Gwympodd

Mae model ymchwil newydd yn datgelu'r straeon cudd y tu ôl i'r enwau ar ein cofebion rhyfel. Graham T. Emmanuel sydd y tu ôl i'r prosiect.

War memorial [Burry Port]

Mae cofebion rhyfel Pen-bre a Phorth Tywyn wedi cael bywyd newydd, diolch i brosiect ymchwil sy'n ailddiffinio sut rydyn ni’n cysylltu â hanes lleol.

Mae'r canlyniadau, ymhell o fod yn rhestr o enwau yn unig, wedi dod yn deyrnged fyw, yn "chwyldro tawel" mewn dogfennaeth goffa.

Mae'r hyn a ddechreuodd fel prosiect personol i anrhydeddu’r rhai a gwympodd ym Mhen-bre a Phorth Tywyn wedi gosod meincnod newydd ar gyfer ymchwil goffa ledled y genedl. Er bod llawer o unigolion a sefydliadau ymroddedig yn gweithio i gofnodi’r hanes a rannwn, mae'r fethodoleg hon yn fodel unigryw a phwerus.

Mae'r ymchwil yn cyfuno gwaith archifo traddodiadol â thechnoleg fodern. Eir ati’n rhagweithiol i chwilio ac mae yna ymrwymiad personol, cadarn i ddod o hyd i straeon unigolion. Er bod elfennau o'r gwaith hwn i'w gweld mewn mannau eraill, mae'r dull hwn yn bwrw iddi’n fanwl ac yn rhyfeddol o sensitif.

Taith y Tu Hwnt i'r Garreg

Dechreuodd y prosiect gyda'r enwau wedi'u hysgythru ar y garreg goffa ac ar blatiau coffa'r eglwys, ond datblygodd i fod yn ymgais i ddatgelu'r straeon unigol y tu ôl i’r enwau. Prosiect Cofebion Gorllewin Cymru fraenarodd y tir gan ddarparu man cychwyn. Oddi yno, ehangodd yr ymchwil i nodi unigolion nad oedden nhw wedi'u rhestru ar y prif gofebion, a'r rhai y cofiwyd amdanyn nhw’n unig ar garreg fedd breifat, gan roi llais i'r rhai a oedd wedi cael eu hanwybyddu.

Integreiddio AI ac Offer Digidol

Elfen allweddol yn llwyddiant y prosiect hwn oedd y defnydd strategol a wnaed o ddeallusrwydd artiffisial. Trwy groesgyfeirio dyddiadau a mannau marwolaeth, helpodd AI i nodi'r gweithrediadau milwrol penodol yr oedd pob unigolyn yn rhan ohonyn nhw. Felly cafwyd lefel o fanylder a chyd-destun hanesyddol a fyddai wedi bod yn anodd i’w gyflawni fel arall, gan gysylltu enwau ag amgylchiadau dramatig eu haberth.

Yna cafodd yr ymchwil ei lanlwytho i Find a Grave. Adolygwyd pob cofeb yn ofalus a'i diweddaru gyda’r wybodaeth newydd a ddaeth i’r fei. Mae hyn wedi caniatáu i'r cofebion traddodiadol ddod yn fyw gyda chofebion digidol.

Mae hyn i gyd wedi cyfoethogi'r cofnod hanesyddol ond hefyd wedi gwneud y wybodaeth yn hygyrch i gymuned fyd-eang o haneswyr teuluol ac ymchwilwyr. Ychwanegwyd haen arall o gyd-destun daearyddol gan ddefnyddio Google My Maps. Dogfennwyd union leoliadau pob bedd a chofeb, gan greu map gweledol a rhyngweithiol.

https://www.peoplescollection.wales/discover/owner/Graham%20T%20Emmanuel