Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 GSUS Live

GSUS Live

GSUS

Mae'r elusen Gristnogol Counties yn rhedeg adnodd am ddim o'r enw GSUS Live. Mae Jonathon Wright yn ei argymell.

Rwy'n dychmygu y byddai llawer ohonom yn hoffi dod o hyd i ffyrdd o gefnogi ein hysgolion lleol ac, yn arbennig, ein hysgolion uwchradd. Roeddem yn ffodus i allu cynnal yr adnodd hwn yn Ysgol Bro Gwaun yn Abergwaun am gyfnod o wythnos ym mis Medi.

Felly beth yw GSUS Live? Cyfres o iPads sydd â'r rhaglen wedi'i lwytho ynddynt (a dim byd arall!). Maen nhw’n cael eu gosod mewn ystafell ddosbarth am wythnos, gyda sgriniau codi i drawsnewid yr ystafell ddosbarth. Mae pob sesiwn yn para 50-60 munud ac yn dechrau gyda chyflwyniad gan y cyflwynydd. Yna mae'r plant yn dewis dilyn stori un o dri chymeriad er mwyn archwilio thema - ofn, maddeuant neu gael eich gwrthod. Yna daw’r sesiwn i ben trwy ddod â’r themâu at ei gilydd.

Beth sydd ei angen ar gyfer cynnal GSUS Live? Yn gyntaf, ysgol sy'n barod i'w gynnal. Gallech ddweud wrth eich ysgol bod croeso iddyn nhw siarad ag Ysgol Bro Gwaun i ddysgu mwy. Yn ail, mae angen tîm arnoch i osod, cynnal a thynnu'r rhaglen. Mae hynny'n golygu rhywun i gydlynu gwirfoddolwyr, yna o leiaf tri pherson ar gyfer pob sesiwn, a digon i gwmpasu’r wythnos ysgol gyfan.

Yr amserlen sylfaenol yw gosod popeth ar y nos Wener cynt, cyn cynnal sesiwn hyfforddi tîm ar yr adnodd. Mae pob un yn para tua dwy awr. Bob bore, mae'r tîm craidd yn cyfarfod am weddi tua 8.30am ac yna yn paratoi i gwrdd â'r grŵp cyntaf.

Ar ddiwedd y dydd, mae'r rhai sy'n bresennol yn gweddïo dros y rhai maen nhw wedi cwrdd â nhw trwy gydol y dydd. Fe wnaethom ni baratoi ar gyfer y digwyddiad gyda gweddi reolaidd. Er mwyn rhoi mwy o gyd-destun, roedd gennym dîm o 10 o bobl leol o eglwysi a chapeli yn Abergwaun a oedd yn gwneud eu rhan ar y rota yn ôl yr hyn yr oedd eu hamserlen yn caniatáu, a chawsom gefnogaeth hefyd gan ein cynrychiolydd Counties lleol, Janet Hawking, a fu’n ddigon caredig i roi wythnos o’i hamser er mwyn i’r holl beth allu digwydd.

Sut mae gwybod mwy neu wneud cais? Mae'n syniad da edrych ar y wefan (https://www.countiesuk.org/gsuslive) a gallwch e-bostio jonathonwright@cinw.org.uk i gael sgwrs. Os oes modd i ni eich cefnogi i gael GSUS Live yn eich ardal chi, fe wnawn ni hynny.