Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Straeon Mynwent

Straeon Mynwent

John Jones (Idrisyn) 1804-1887

Richard Davies yn datgelu talentau cudd clerigwr o oes Fictoria

Idrisyn Plaque [Llandysiliogogo]

Ar wal gangell Eglwys Llandysiliogogo, yn Archddiaconiaeth Aberteifi, gwelir cofeb (gwaith D.O.Rees, Cei Newydd) i’r Parchedig John Jones a’i wraig Elizabeth.

Bu John Jones, neu Idrisyn, fel yr adnabyddid ef yn ei ddydd, yn ficer ar yr eglwys am bron ddeg mlynedd ar hugain, ac er fod y cof amdano wedi cilio llawer erbyn heddiw, yn ei ddydd roedd yn lled enwog fel argraffwr ac awdur.

Ganwyd Jones yn Nolgellau, yn fab i William Humphrey a’i wraig Elizabeth a honnai ei bod yn ddisgynnydd o Elis Wynne, y Bardd Cwsg. Saer coed oedd gwaith y tad ond pan yn bedair ar ddeg mlwydd oed fe aeth John yn brentis gyda’r argraffwr Richard Jones. Roedd Jones siŵr o fod wedi cael dylanwad mawr ar y gŵr ifanc, oherwydd fe newidiodd John ei gyfenw o ‘Humphrey’ i ‘Jones’.

Roedd y wasg yn cyhoeddi cyfnodolyn y Wesleiaid, sef ‘Yr Eurgrawn’ a phan benderfynwyd cyhoeddi y cylchgrawn yn gyntaf yn Llanfair Caereinion ac wedyn Llanidloes, fe ddilynodd Jones y cylchgrawn i’r trefi rheiny – yn wir fe ddaeth yn Faer Llanidloes. A’i holl gysylltiadau efo’r Wesleaid, er iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Dolgellau, ychydig syndod iddo fod yn flaenor a phregethwr lleyg efo’r Wesleiaid.

Yn ogystal â chyhoeddi Yr Eurgrawn, roedd Idrisyn hefyd yn cyfrannu cerddi, traethodau a darnau eraill, ac nid yn unig i’r Eurgrawn. Cyhoeddodd hefyd tua deuddeg o lyfrau:

Yr Esboniad Beirniadol.(chwe chyfrol)

Y Dehongliad Beirniadol ar yr Hen Destament a’r Testament Newydd. Yn y llyfrau yma, roedd yn cynnig eglurhad manwl o bob adnod yn y Beibl. Gwerthwyd dros 80,000 o gopiau.

Fe gyfieithodd lyfr y Frenhines Victoria Journal of our Life in the Highlands.

Ar ôl blynyddoedd o gysylltiad agos efo’r Wesleiaid, fe droiodd nôl i’r Eglwys ac fe’i ordeiniwyd yn ddiacon yn 1853. Bu’n gurad Llandysul, cyn ei apwyntiad fel offeiriad Llandysiliogogo yn 1858. Fe’i claddwyd ym mynwent ei eglwys.