O'r Tymbl i Dîm Cymru
![Tianna David [gymnast]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Tianna_David.width-500.jpg)
Michelle Lloyd sy’n disgrifio sut y cyllidodd cymuned a ffydd freuddwyd athletwraig ifanc.
Mae Tianna David, 16 oed, sy’n gymnastwraig ddawnus o bentref y Tymbl, wedi cyflawni carreg filltir ryfeddol yn ddiweddar: cafodd ei dewis i gynrychioli Cymru mewn digwyddiad gymnasteg rhyngwladol ym Mhortiwgal.
Ond gyda'r cyfle cyffrous hwn daeth yr her o godi £750 i dalu ei threuliau.
Dechreuodd ymroddiad Tianna i'w champ pan oedd hi'n bedair oed ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Ond roedd angen mwy na thalent i wireddu’r daith; roedd cefnogaeth ariannol yn hanfodol.
Mewn ysbryd o gymuned a chydweithio, fe wnaethon ni wahodd Tianna a'i mam i wasanaeth Ardal Weinidogaeth Leol Bro Gwendraeth, lle rhannodd Tianna ei stori yn ddewr gyda'r gynulleidfa. Wedi'i chyffwrdd gan ei phenderfyniad, gofynnodd y Parch Lindy Morgan i'r casgliad ar y Sul hwnnw gael ei neilltuo i gefnogi Tianna, a chodwyd £104 anhygoel mewn un gwasanaeth. A pharhau wnaeth yr haelioni: cyfrannodd Eglwys Santes Ann £100 arall, ac ymatebodd y cwmni lleol Castell Howell hefyd gyda rhodd hael o £100.
Rhoddodd cyfweliad byw ar Facebook gyfle i Tianna fynegi ei diolchgarwch a'i chyffro, ac wrth i'w stori fynd ar led, tyfodd y gefnogaeth. Roedd y cynhesrwydd a'r anogaeth gan gymdogion, busnesau lleol, a ffrindiau yn aruthrol - prawf o ysbryd y gymuned ar waith, wedi'i gryfhau ymhellach gan gyd-weddïo.
Gyda rhoddion yn llifo i mewn o bob cyfeiriad, roedd y targed yn sydyn o fewn cyrraedd. Ar 5 Hydref, er llawenydd a rhyddhad, cyrhaeddodd a churodd Tianna ei nod o £750. Roedd ei breuddwyd o gystadlu dros Gymru ym Mhortiwgal bellach o fewn ei gafael, diolch i haelioni a ffydd ei chymuned.
Yng ngeiriau twymgalon Tianna ei hun: "Rydw i am ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu a’m cefnogi, mae'n golygu cymaint i gael cynrychioli fy ngwlad gan wybod bod Michelle, y bobl o'r eglwys a'r gymuned wedi fy nghefnogi. Diolch."
Mae stori Tianna yn ddathliad o ddyfalbarhad, ysbryd cymunedol, a phŵer caredigrwydd cymunedol. Gydag un cais am gymorth yn unig, ymatebodd cymuned gyfan, gan ddangos bod modd goresgyn hyd yn oed yr heriau mwyaf. Gadewch i ni barhau i gefnogi Tianna a phobl ifanc eraill fel hi trwy anogaeth, gweddi, a gweithredu fel nad oes unrhyw freuddwyd byth allan o gyrraedd.
Os hoffech rannu neges o gefnogaeth neu ddysgu mwy am daith Tianna, mae croeso i chi gysylltu drwy ein grŵp Facebook cymunedol Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Ardal Weinidogaeth Leol Bro Gwendraeth. Gyda'n gilydd rydyn ni wedi gwneud gwahaniaeth - a gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i hyrwyddo talent leol.