Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Ffydd mewn tai fforddiadwy

Ffydd mewn tai fforddiadwy

Mae Housing Justice Cymru wedi lansio ystod o adnoddau ar gyfer eglwysi sy'n ceisio mynd i'r afael â'r prinder tai drwy droi tir ac adeiladau diangen yn gartrefi fforddiadwy i'w cymunedau.

Wrth i brosiect Ffydd mewn Tai Fforddiadwy'r elusen ddigartrefedd ddod i ben, maen nhw wedi llunio tudalen we o adnoddau sy'n cynnwys offer ymarferol a chanllawiau i eglwysi sydd eisiau cymryd y cam nesaf yn ogystal ag offeryn mapio i adnabod tir ac adeiladau ar gyfer cartrefi fforddiadwy – yn y gobaith y bydd yn galluogi eglwysi i greu gwaddol ar gyfer y rhaglen.

https://housingjustice.org.uk/faith-in-affordable-housing-legacy

Mae data diweddar gan elusen arall o Gymru, The Wallich, yn dangos bod bron i 11,000 o bobl, gan gynnwys 2,596 o blant, yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru ym mis Ebrill 2025; mae data Llywodraeth Cymru ar gyfer Mehefin 2025 yn dangos bod tua 116 o unigolion hefyd yn cysgu ar ein strydoedd, er bod y gwir ffigur yn debygol o fod yn sylweddol uwch na hyn.

Hyd yn hyn, mae'r Prosiect Ffydd mewn Tai Fforddiadwy wedi arwain yn uniongyrchol at adeiladu 105 o gartrefi newydd ar ddeg safle ledled Cymru, gan gynnig tai fforddiadwy i o leiaf 271 o bobl. Mae 58 o gartrefi newydd ychwanegol naill ai'n cael eu hadeiladu neu'n mynd trwy broses cynllunio.

Waeth pa mor awyddus yw eglwysi mewn egwyddor i wneud y gwaith hwn, yn ymarferol mae cyfraith gymhleth ynghylch elusennau sy'n gwaredu tir yn is na gwerth y farchnad, rheoliadau cynllunio sy’n effeithio ar adeiladau hanesyddol a pheidio â gwybod ble i ddechrau, yn golygu bod rhai yn syrthio ar y rhwystr cyntaf.

Yn ôl Cyfarwyddwr Housing Justice Cymru, Nicola Evans, mae’r prosiect wedi galluogi datblygiad cartrefi fforddiadwy newydd ar dir a fyddai fel arall wedi parhau i fod yn ddiffaith neu'n segur, ond sydd bellach yn cael eu defnyddio er budd cymunedau lleol. Roedd yr eglwysi rydyn ni wedi gweithio gyda nhw yn awyddus i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a chyflawni eu cenhadaeth Gristnogol i leddfu dioddefaint.

“Mae'r tîm Ffydd mewn Tai Fforddiadwy wedi gweithio'n agos gydag eglwysi o bob enwad ledled Cymru a Lloegr drwy gydol y prosiect, gan ddarparu cyngor ac adnoddau, yn ogystal â chysylltu eglwysi â chymdeithasau tai addas, fel rhan o'n gwaith tuag at sicrhau bod gan bawb gartref sy'n diwallu eu hanghenion”