Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Emlyn, Euros ac Eraill

Emlyn, Euros ac Eraill

Robert Rhys

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn i sôn am y budd a gefais yn ddiweddar wrth astudio a gwerthfawrogi gwaith rhai o offeiriadon llengar yr Eglwys yng Nghymru.

Dim ond ar ôl ymddeol o’m swydd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe y teimlais awydd i ymchwilio i yrfa farddol y Parch D. Emlyn Lewis (1907-1976), bardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962. Roedd hynny yn bennaf oherwydd y cof byw oedd gen i amdano yn cipio coron Llanelli pan oeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanddarog, ac Emlyn Lewis yn ficer y plwyf - yn wir ‘yr Hydd Gwyn’, ar ôl y dafarn sydd gyferbyn ag eglwys y pentref, oedd ei ffugenw. Dyma fynd ati i olrhain gyrfa eisteddfodol Emlyn hyd at lwyddiant 1962. Bardd arloesol, heriol (‘tywyll’ ddywedai rhai) oedd Emlyn ac roedd gofyn iddo gael beirniaid cydymdeimladol. Ei gefnogwr pennaf yn hyn o beth oedd ei gydoffeiriad y Parch Euros Bowen, un o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Cefais achos i fyfyrio eto yng ngwaith Euros wrth dderbyn gwahoddiad i draddodi Darlith Barddas ar ei waith yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, gan gofio mai yn Nhreorci y’i ganwyd. (Ond mae gan Sir Gâr hawl arno hefyd.) Cyhoeddais ysgrifau ar Emlyn yn Barddas, rhifynnau Haf a Hydref 2021, ac ar Euros yn Barddas, Hydref 2024 a Gaeaf 2025.

Gwych o beth oedd sefydlu’r gyfres o seminarau zoom ‘Gofal ein Gwinllan’, a chyhoeddi tair cyfrol yn sgil hynny, y cyfan gyda’r bwriad o ddathlu cyfraniad yr Eglwys i lên a diwylliant Cymru. Wrth gyfrannu iddi cyffrous oedd mynd i fyd y golygydd a’r llenor dadleuol, David Owen, ‘Brutus’ (1795-1866). O Lanpumsaint y deuai yn wreiddiol, ond treuliodd ran bwysicaf ei oes ar lan afon Gwydderig ger Llanymddyfri, yn olygydd Yr Haul, yn pledio’r safbwynt ceidwadol eglwysig gydag afiaith, yn aml trwy ddadlau yn erbyn David Rees, Llanelli, golygydd y Diwygiwr. Ond fe’i cofiwn yn bennaf fel llenor dawnus y cyhoeddwyd detholion o’i waith yn yr ugeinfed ganrif yn y cyfrolau Bugeiliaid Epynt a Wil Brydydd y Coed. Bardd a llenor o Eifionydd yw’r eglwyswr arall i mi ymchwilio i’w waith, sef Morris Williams ‘Nicander’(1809-1874). Wrth wneud hynny priodol oedd cydnabod fy nyled i draethawd ymchwil cynhwysfawr yr ysgolhaig o eglwyswr y Parch D. Eifion Evans. (Gwelir fy ysgrifau ar y ddau hyn yn Gofal ein Gwinllan, cyfrolau 2 a 3.)

Nodyn personol wrth gloi. Daeth y gwahoddiad i gyfrannu gan un o ferched offeiriad llengar arall o’m cynefin a chyfnod fy magwraeth, sef y Parch G. Alun Williams, ficer Llangyndeyrn, bardd Cerddi Glyn Alun a gŵr y manteisiaf ar y cyfle hwn i’w gofio gydag anwyldeb a gwerthfawrogiad.