Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Dwyrain a Gorllewin yn dod ynghyd:

Dwyrain a Gorllewin yn dod ynghyd:

Eglwys Dewi a’r Sefyllfa Heddiw

Ddiwedd mis Medi, daeth criw arbennig o bobl ynghyd yn Nhyddewi mewn adlais o’r hyn a ddigwyddodd yno ganrif yn ôl yn ystod oes Dewi.

Anglo Orthodox 1

Daeth dau ddwsin o uwch glerigion a diwinyddion ynghyd – archesgobion, archesgobion metropolitanaidd, esgobion, archimandriaid, protopresbyteriaid, canonau, athrawon a mwy – ar gyfer cyfarfod blynyddol wythnos o hyd y Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer Deialog Ddiwinyddol rhwng yr Eglwysi Uniongred a’r Cymundeb Anglicanaidd. Roedd yr unigolion hyn wedi teithio o bedwar ban, o Awstralia i Zimbabwe, i ymuno â Deon Sarah, sy'n aelod o'r Comisiwn ei hun, ar wahoddiad yr Eglwys yng Nghymru, gyda'r Esgob Dorrien yn gweithredu fel gwesteiwr esgobol.

Ochr yn ochr â'u gwaith i gryfhau cysylltiadau Anglicanaidd-Uniongred ac archwilio ymatebion cyffredin i gwestiynau moesegol ein hoes, cafodd aelodau'r Comisiwn gyfle i fynd ar bererindod i Gapel Non ar yr arfordir a rhannu rhythm addoliad dyddiol yr Eglwys Gadeiriol. Roedd hyn yn cynnwys y Cymun ar y Sul o dan arweiniad yr Esgob Dorrien lle cafwyd pregeth gan yr Esgob Michael Lewis, cyd-gadeirydd Anglicanaidd y ddeialog, a gwasanaeth y Gosberau Sanctaidd ar gân ar gyfer Noswyl Gŵyl Sant Mihangel a'r Holl Angylion.

Anglo Orthodox [Sept 25]

Bu aelodau Uniongred y Comisiwn yn arwain y Gosberau yn ystod yr Ŵyl ei hun, ac yn ddiweddarach yn yr wythnos buont yn dathlu'r Litwrgi Ddwyfol ar y Prif Allor - y tro cyntaf i hynny ddigwydd. Fe fu’r Esgob Athenagoras o Wlad Belg, y cyd-gadeirydd Uniongred, yn arwain ac yn pregethu, a theithiodd clerigion ac unigolion Uniongred o Lanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerdydd ar gyfer y gwasanaeth. Er nad oedd modd i’r Anglicaniaid dderbyn y Cymun, fe wnaethon nhw ymuno â phawb i rannu'r antidoron, torth fawr a oedd wedi'i thorri a'i bendithio, ar ddiwedd y gwasanaeth.

Dewiswyd Tyddewi yn fwriadol eleni wrth i ni nodi 1700 mlwyddiant Cyngor Nicaea, man geni’r Credo y mae Cristnogion y Dwyrain a'r Gorllewin yn parhau i'w arddel. Ganrif yn ôl, roedd dirprwyaeth debyg o uwch swyddogion Uniongred yn rhan o wasanaeth eciwmenaidd mawr yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi i nodi 1600 mlwyddiant conglfaen ein ffydd gyffredin. Dangoswyd lluniau ac adroddiadau papurau newydd o'r digwyddiad hwnnw.

Yn fwy na hyn, yn ystod cyfnod Dewi – sy'n cael ei gydnabod fel sant yn y Dwyrain a'r Gorllewin – roedd ein heglwysi yn unedig. Yn wir, cafodd traddodiadau Cristnogol y Dwyrain ddylanwad mawr ar Gristnogaeth Brydeinig. Dim ond ar ôl i'r Pab Gregory anfon Awstin i droi'r Eingl-Sacsoniaid at Gristnogaeth, ddegawd ar ôl marwolaeth Dewi, yr atgyfnerthwyd y cysylltiadau ag ymarfer Rhufain a’r Gorllewin.

Roedd cydnabod dyfnder y dreftadaeth gyffredin hon, a gallu addoli a cherdded yn ôl troed ein cyndeidiau yn y ffydd, yn brofiad teimladwy iawn i Anglicaniaid ac aelodau’r Eglwysi Uniongred. Mae'r profiad o sefyll gyda'n gilydd yn yr etifeddiaeth gyffredin hon wedi gadael gwaddol parhaol i'r Comisiwn, a fydd yn helpu i ddylanwadu ar ein perthynas gynyddol agos o fewn undod yr Eglwys y gweddïodd Iesu Grist drosti.