Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Dyddiadur Person wedi ymddeol

Dyddiadur Person wedi ymddeol

Diary of a Retired Parson 1225 [remembrance]

Christopher Lewis Jenkins sy’n croesawu adfywiad yng ngwasnaethau’r Cofio

Dyma lun ohonof yn gweinyddu mewn gwasanaeth Cofio yn Freshwater West yn Sir Benfro. Rwy'n cofio un gwasanaeth o'r fath lle’r oedd y tywydd mor wael, fel mod i ar fy ochr fwy neu lai, yn brwydro yn erbyn y gwynt wrth i mi geisio sefyll ar ben y clogwyn.

Tra yno yn edrych allan i'r môr, byddwn yn dwyn i gof fy amser fel morwr masnachol, yn hwylio’r moroedd, weithiau mewn tywydd garw iawn, gan feddwl am y rhai a hwyliodd yn llyngesau'r Iwerydd i fyny i Rwsia cyn docio yn Murmansk, rhywle roeddwn innau hefyd wedi bod.

Mae meddwl am y rhai a wnaeth yr aberth eithaf dros ein rhyddid yn ddigon i sobri rhywun. Ond nid personél y Llynges Frenhinol a Masnachol yn unig sydd wedi gwneud yr aberth honno; fe wnaeth dynion a menywod o’r Awyrlu Brenhinol a'r Fyddin ymladd yn yr un modd hefyd.

Rydw i bob amser mor falch o weld bod y gwasanaethau hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac yn cael eu cefnogi'n dda, nid yn unig gan y boblogaeth hŷn ond gan fwy o bobl ifanc hefyd.

Ni ddaw henaint i’w rhan hwy,
Fel i ninnau, a adawyd.
Ni ddwg oed iddynt ludded
Na’r blynyddoedd gollfarn mwy.
Pan elo’r haul i’w orwel
Ac yn y bore,
Ni a’u cofiwn hwy,
Ni a’u cofiwn hwy.

Pan ddychwelwch gartref
dywedwch hyn amdanom ni:
mai er mwyn eich yfory chwi
rhoddasom ein heddiw ni.