Dyddiadur Gwraig Person
I hwyl yr ŵyl a’r clirio! Ond gall fod yn frwydr, fel y darganfu Polly Zipperlen.
Mae'r Adfent yn aml yn teimlo fel amser o glirio ac o buro, ac mae'r clirio blynyddol eleni yn hirddisgwyliedig. Ar ôl byw yn yr un ficerdy am 10 mlynedd, rydyn ni wedi colli'r tacluso gorfodol sy'n naturiol yn cyd-fynd â symud tŷ. Felly, tra bod Marcus wedi bod yn beicio ar draws Ewrop ar gyfnod Sabothol, penderfynais fanteisio ar y cyfle i fynd trwy ein holl eiddo a chael cliriad go iawn.
Gan wybod fy mod i’n gelciwr naturiol, meddyliais y byddwn i’n ymroi’n raddol i’r gwaith o glirio, sy’n annaturiol i fi. Dechreuais gyda'r holl eitemau cartref oedd â thyllau ynddyn nhw. Dylai hyn fod yn hollol syml, ond doedd o ddim. Fe wnes i lwyddo i daflu lliain sychu llestri cotwm yn yr wythnos gyntaf, a oedd er yn dal i fod mewn cyflwr eitha da, wedi cael ei gnoi gan lygoden ar ryw adeg. Aeth hwn ar y pentwr compost. Perffaith, fy eitem gyntaf wedi'i thaflu, yn lle cymryd lle yn y drôr, a doedd hi ddim hyd yn oed wedi mynd i’r safle tirlenwi. Er fe wnes i alaru am y lliain am ryw fymryn gan mai dyma y byddwn i’n ei ddefnyddio i sychu cypyrddau’r gegin.
Nesaf, y Crysau-T a'r siwmperi. Cyrhaeddodd dwy eitem o ddillad a arferai fod yn grysau-T y bin, cyrhaeddodd cardigan yr ystafell fwyta ac mae bellach yn gweithredu fel antimacassar ar y gadair y mae'r ci yn eistedd arni pan nad oes neb yn edrych. Ond o leiaf mae'n arbed clustogwaith y gadair rhag troi'n wely i gi.
Nesaf, top lliain/cotwm o Lydaw dwi’n ei garu, ac sydd mewn cyflwr da, ar wahân i'r tyllau niferus pan chwythodd oddi ar y lein ddillad a chael ei ddal ar lwyn rhosod gerllaw. Ro’n i’n methu ei daflu ac fe ffeindiodd ei ffordd yn ôl i'r cwpwrdd dillad. Dair wythnos yn ddiweddarach ac roeddwn i wedi anghofio'n llwyr am y tyllau, sydd mewn gwirionedd yn fwy amlwg na gweddus, ond dyna lle roedd hi, yn sbecian arna’i o dan bâr o ddyngarîs, er mawr gywilydd a dychryn i’r bobl a oedd yn galw acw.
Cafwyd yr un llwyddiant wrth y silffoedd llyfrau, lle mae fy hoff nofel, A Town Like Alice gan Nevil Shute, sydd bron yn annarllenadwy oherwydd ei bod mewn ffasiwn gyflwr, wedi darganfod ei ffordd i'r cwpwrdd erchwyn gwely i'w ddarllen unwaith eto. Gan fy mod i’n benderfynol o gael gwared arno, dwi wedi penderfynu prynu copi cyfan i gymryd ei le, ac i gadw'r clawr gorliwgar o’r 70au mewn ffrâm. Dydw i ddim yn meddwl bod sesiwn glirio'r Adfent yn mynd yn rhy dda!