Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Darparu cyfiawnder lleol, sy'n cael ei lywio gan gymheiriaid

Darparu cyfiawnder lleol, sy'n cael ei lywio gan gymheiriaid

Ewan Lawry [magistrate]

Ewan Lawry yn cyflawni ei uchelgais i ddod yn ynad

Roedd y syniad o fod yn ynad wedi apelio ers tro byd, yn sgil y weledigaeth foesol o wireddi cyfiawnder yn lleol gan rywun cydradd. Fel Cristion, roeddwn i'n teimlo y "caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder”.

Ar ôl ymchwilio i'r broses a sicrhau y byddai fy nghyflogwr yn barod i mi weithio'n hyblyg er mwyn eistedd yn y llys, fe wnes i gais ddiwedd 2024. Cefais fy nghyfweld, a mynd trwy broses ddilysu faith. Roedd hi'n dipyn o foment i dderbyn y llythyr yn cadarnhau fy mod wedi cael fy nghymeradwyo ac y byddwn yn eistedd yn Ardal Cyfiawnder Lleol Sir Benfro a Cheredigion fel ynad heddwch.

Yr uchafbwynt yw'r seremoni tyngu llw, lle rydych chi'n tyngu neu'n cadarnhau'r llw teyrngarwch i'r Brenin a'i olynwyr ac yna yn cymryd y llw barnwrol ".…y byddaf yn delio’n gywir â phob math o bobl heb ofn na ffafr, na hoffter na drwgdeimlad, yn unol â chyfreithiau ac arferion y deyrnas hon." Dyna oedd y pwynt lle'r oedd y cyfan yn teimlo'n 'real', mewn iaith sy'n ein hatgoffa o wreiddiau hynafol yr ynadon ac yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr ymrwymiad i ymdrin â thros 90% o'r holl achosion troseddol gyda phŵer i ddirwyo a charcharu. Mae cydweithwyr mewn llysoedd ieuenctid a theuluoedd yn wynebu cyfrifoldeb yr un mor bwysig wrth wneud penderfyniadau a all effeithio'n llythrennol ar weddill bywyd person.

Yn naturiol, roedd hyn yn achosi rhywfaint o bryder – wedi'r cyfan, pwy ydw i i eistedd mewn barn ar eraill? Ond cafodd yr amheuon hyn eu dileu'n gyflym gan y croeso cynnes a gefais gan yr ynadon eraill a'r staff cymorth, yn ogystal â'r rhaglen hyfforddi fanwl. Mae hon yn swydd o gyfrifoldeb enfawr, ond hefyd yn un lle cewch eich gwneud i deimlo'n gyfforddus gyda’r sicrwydd nad oes yna berson arbennig sy’n gymwys i fod yn ynad, neu bod angen bod yn arbenigwr cyfreithiol. Mae'r hyfforddiant a'r cynghorwyr cyfreithiol sy’n bresennol ym mhob eisteddiad yn sicrhau bod pobl o bob cefndir yn gallu cymryd rhan waeth beth fo'u cymwysterau, hanes eu cyflogaeth neu eu profiad o fywyd.

Mae’n bwysig cofio bod y gyfraith, sy’n cael ei llunio gan y Senedd, yn perthyn i bawb ac rydym i gyd yn elwa trwy gydymffurfio â hi. Pan fo achos o dor-cyfraith, mae ein cymdeithas yn parhau i weithio oherwydd bod cyfiawnder yn cael ei weinyddu'n lleol, yn dryloyw a phrydlon. Mae ynadon yn rhan annatod o hyn fel cyswllt byw, lleol rhwng y gymuned a'r farnwriaeth, gan wneud gwaith hanfodol y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan ynddo. Mae hon yn rôl hynod werth chweil ac, os yw'n ennyn eich diddordeb, mae’n llwybr y byddwn yn annog pawb i'w archwilio.