Galw am heddwch
Ein gohebydd o'n Hesgobaeth Gydymaith Bukavu, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo, sy’n ystyried trawma rhyfel a goblygiadau adroddiad UNAIDS 2025
Yma yn Bukavu, prifddinas De Kivu, mae pobl yn deffro bob bore yn teimlo cyfuniad o bryder a gobaith bregus. Mae'r rhyfel wedi dadleoli cymunedau cyfan, wedi amharu ar fywoliaethau, ac wedi gwthio miloedd i anobaith. Mae dyddiau'n ymddangos yn normal, ond daw nosweithiau ag ofn a does neb yn gwybod beth ddaw yfory.
Mewn sawl parth iechyd, mae pobl yn wynebu argyfwng aml-ddimensiwn: diffyg cyfleusterau bancio ffurfiol, diogelwch bregus, gwasanaethau gofal iechyd gwael, prinder meddyginiaethau, a rhaglenni datblygu a oedd yn cynnal cymunedau gwledig yn dioddef tarfu. Mae'r cyfuniad hwn o heriau yn creu risg uchel y gallai pandemig, fel HIV/AIDS, godi ei ben neu waethygu, gan beryglu bywydau lawer.
Ac eto, nid argyfwng i Congo yn unig yw hwn. Mae toriadau cyllid byd-eang yn taro ar yr adeg waethaf bosibl. Mae adroddiad newydd UNAIDS yn rhybuddio am argyfwng ariannol hanesyddol yn yr ymateb HIV byd-eang sy'n rhoi miliynau o fywydau mewn perygl os yw'r byd yn camu'n ôl.
Yn ysbytai Mozambique, mae 30,000 o weithwyr iechyd wedi cael eu diswyddo. Yn Nigeria, mae mynediad at broffylacsis cyn-amlygiad (PrEP) wedi cwympo o 40,000 i ddim ond 6,000 y mis. Pe bai'r rhaglenni HIV a gefnogir gan yr Unol Daleithiau yn cael eu tynnu'n ôl yn llwyr, mae UNAIDS yn amcangyfrif chwe miliwn o heintiau newydd a phedair miliwn o farwolaethau ychwanegol rhwng nawr a 2029.
Ond yn ne Affrica, gwelwn rywbeth arall yn digwydd: mobileiddio, ail-fuddsoddi, gwytnwch. Mae saith gwlad wedi cyrraedd targedau UNAIDS; mae PrEP chwistrelladwy hir-weithredol newydd yn bodoli. Mae trawsnewid yn dal i fod yn bosibl gydag ymrwymiad pob ochr.
Ac yma yn Bukavu, ym mis Awst yn unig, llosgodd 1,000 o gartrefi i’r llawr mewn un noson, gan adael mwy na 9,000 o bobl yn ddigartref. Ddyddiau'n ddiweddarach, cafodd dros 31,000 eu taro gan lifogydd yng nghefn gwlad De Kivu. Mae colera, Mpox a'r frech goch yn lledaenu o ganlyniad; mae newyn ar gynnydd; mae cost goroesi yn codi'n gynt nag incwm. Mae'r strydoedd yn llawn tensiwn ac yn teimlo fel llefydd anwadal.
Ac eto... mae ysgolion wedi ailagor; mae eglwysi yn llawn bob Sul; mae grwpiau ieuenctid yn dal i gyfarfod; mae menywod yn ymgynnull i weddïo, rhannu a chynnal ei gilydd. Efallai na all ffydd atal bwledi, ond mae'n cadw calonnau rhag torri. Ac wrth i mi ysgrifennu'r pwt hwn, rwy'n gweld sut mae pobl gyffredin yn gwrthod ildio i anobaith – maen nhw'n cymryd camau bach heriol bob dydd. Dydy gobaith yma ddim yn naïf. Mae'n gryfach nag ofn ac mae'n wrthsafiad. Mae'n gred na all rhyfel na difaterwch y byd ddileu urddas.
A'r Nadolig hwn, wrth i'r byd ddathlu heddwch, mae gan Bukavu neges syml: peidiwch ag edrych i ffwrdd.
Mae angen i'r byd wrando arnom a gweithredu. Nawr. Oherwydd mae heddwch yma, er mor anodd i’w sicrhau, yn bosibl.