Hanesion Plentyndod Ficerdy
Mae Eluned Rees yn cofio'r nifer o bobl ddiddorol, rhai ohonynt yn ddylanwadol iawn, eraill yn ddoniol neu'n ecsentrig, y daeth ar eu traws yn gynnar yn ei bywyd.
Bu llawer o bobl ddiddorol yn rhan o’m bywyd, a rhai yn ddylanwadol iawn,ac eraill yn ddoniol neu egsentrig.
Roeddwn yn byw yn y Ficerdy yn LLwyndafydd nes mod i’n saith oed. Roedd fy mam yn ferch y dre, a phan roddwyd cwningen iddi gan blwyfolyn, doedd hi ddim yn gwybod ble i droi am help. Dyma Tim, y postmon yn cyrraedd, dyn gyda sawl talent, ac ef a ddangosodd iddi sut i flingo’r creadur druan!
Roedd sawl un o’r aelodau a chymdogion yn annwyl. Roedd Bessie a Lloyd Jones, Penparce, yn hen-ffasiwn, gyda ieir yn rhedeg o gwmpas llawr llechi’r gegin, tra eisteddai Lloyd yn ysgrifennu englynion wrth y dwsin. Roedd ef yn un o deulu’r Cilie, y teulu barddol enwog, ac fe ymunodd nhad â nhw mewn ambell gystadleuaeth Ymryson y Beirdd.
Un arall o’r teulu oedd Tydfor, a oedd yn byw gyda’i fam ar dyddyn Gaerwen yn edrych lawr ar fae Cwmtydu. Roedd ei dad, Siôrs, wedi boddi ei hun ar ddechrau’r rhyfel, pan ddeallodd mai dim ond un dyn a allai gael pardwn rhag ymuno â’r fyddin yn y rhyfel byd. Aberthodd ei hun er mwyn i Tydfor gael aros. Fe ysgrifennodd Tydfor englyn ar fy ngenedigaeth, sy’n werthawr iawn i fi, gweler yn y llun.
![Vicarage Childhood Pic 2 [Dec 25]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Vicarage_Childhood_Pic_2_Dec_25.width-500.jpg)
![Vicarage Childhood Pic 1 [Dec 25]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Vicarage_Childhood_Pic_1_Dec_25.width-500.jpg)
Roedd Mrs.Lewis yn wraig i’r gweinidog yn y pentref, ac roedd ei mab, Dewi Tudur, tua’r un oed â fi. Fe fyddai’r ddwy fam yn mynd â ni’r babanod i lawr i Gwmtydu yn ein pramiau. Yr unig broblem oedd bod fy mam braidd yn fratiog ei Chymraeg ar y pryd, a Mrs.Lewis yn dod o Benygroes, Gwynedd ac yn Gog go iawn! Mae’n debyg bod rhaid troi at y Saesneg yn aml i gael sgwrs. Rwyn falch i ddeall bod Dewi Tudur, neu Parch Dewi Tudur Lewis , nawr yn weinidog parchus. Dim ond Warden fach gyffredin wyf fi hyd yn hyn!
Roedd mynd i ysgol Caerwedros yn antur. Byddai Eirlys Cwmcynon yn galw amdanaf ac yn cerdded lawr i’r pentref i ddal y bws. Ein hathrawes oess Miss Rees, a ddeuai ar ei Lambretta swnllyd bob bore o Gei Newydd.
Roedd fy nhad yn gofalu am ddwy eglwys dra wahanol , Llandysilio go go, lawr yn y cwm yn edrych at y môr, a Sant Marc, Gwenlli, ar ochr y ffordd fawr rhwng Aberaeron ac Aberteifi. Ond roedd caredigrwydd y ddwy gynulleidfa yn ein cwmpasu tra buom yno, ac fe gadwodd fy rhieni mewn cysylltiad â sawl un am flynyddoedd.