Pontio'r rhaniad eciwmenaidd
Gareth Reid, offeiriad plwyf Llandysul, yn disgrifio cydweithio llawen rhwng dau draddodiad Cristnogol
Ers dechrau yn y weinidogaeth ordeiniedig, rydw i wedi cael y llawenydd o weithio yn eciwmenaidd gyda'n brodyr a'n chwiorydd yng nghapeli’r Methodistiaid, y Bedyddwyr a’r Annibynwyr. Rydw i wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau a gwasanaethau o bob math. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un, ac mae parhau yn rhan o Cytûn yn fy ardal leol wedi creu cyfleoedd gwych a heriau cadarnhaol. Felly, gyda diddordeb gwirioneddol y darllenais e-bost yn gofyn am drafod gwasanaeth posibl gyda'r Eglwys Uniongred.

Ar ôl trafod gydag aelod o'r eglwys sy'n byw yn Llandysul ac yn ddiweddarach yr offeiriad Uniongred, fe wnaethom gynllunio iddyn nhw gynnal gwasanaeth Gosber yn eglwys Sant Tysul. Roedd y gynulleidfa Anglicanaidd leol yn gefnogol a rhoddodd yr Esgob ei gefnogaeth garedig hefyd. Felly, ar Sadwrn, 18 Hydref roedd eglwys Sant Tysul yn dyst i litwrgi nad oedd wedi ei chlywed o'r blaen, neu o leiaf nid ar y ffurf honno.
Daeth dros 20 o bobl ynghyd ar gyfer y gwasanaeth ar brynhawn Sadwrn - cymysgedd iach o Gristnogion Anglicanaidd ac Uniongred - a phob un â'r alwad i addoli Duw. Daeth y gynulleidfa Uniongred gydag eiconau, canhwyllau, thuser ac arogldarth ac ymunodd pawb yn yr addoliad.
Atgof defnyddiol o'r pethau sy'n ein huno yw’r ffaith fod un o'r offeiriaid Uniongred a arweiniodd y gwasanaeth yn mynychu’r coleg diwinyddol gyda mi - pob un ohonom ar lwybr gwahanol yn dilyn y Duw Byw.
Roedd sawl elfen o'r gwasanaeth yn gyfarwydd - Gogoniant i'r Tad… - a llawer yn anghyfarwydd. Fodd bynnag, wrth i ni adael roedd gwir deimlad ein bod wedi cydaddoli. Lluniwyd sawl perthynas newydd; roedd yn dda gweld cynifer o bobl a oedd yn adnabod ei gilydd - ar draws y rhaniad eciwmenaidd - a chyfle da i weld sut y gallwn estyn ein croeso a defnyddio ein hadeiladau eglwysig mewn gwahanol ffyrdd sy’n parhau i gyflawni ein swyddogaeth sylfaenol sef addoli.