Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Eglwyswyr pybyr

Eglwyswyr pybyr

Mae Richard E Huws ar lwybr hanes teulu

Mae Cymdeithas y Penrhyn yn gymdeithas lenyddol sy’n cwrdd yn fisol yn y Gaeaf yn ardal Penrhyn-coch, ger Aberystwyth. Ar ddiwedd y tymor trefnir gwibdaith - eleni aethpwyd i waelod Ceredigion ac i ogledd Sir Benfro. Ymwelwyd â thref a chastell Aberteifi, Eglwys St. Brynach, Nanhyfer a Melin Tregwynt, ger Abergwaun gan fwynhau pryd hyfryd o fwyd ar y ffordd adref yn Aberaeron.

Roeddwn yn edrych ymlaen yn arbennig at ymweld ag Eglwys Sant Brynach. Roeddwn yn cofio’r union ddyddiad i mi fod yno ddiwethaf, a hynny yn 1971. Ar y pryd roeddwn yn brentis lyfrgellydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ac wedi dechrau ymhel â’m hanes teulu.

St Brynach church, Nevern [Interior]

Mae gwreiddiau’r teulu Hughes yn ddwfn yng ngogledd Sir Benfro. Yn eglwyswyr pybyr roedd hi’n gymharol hawddd olrhain yr achau yn ôl gryn bellter. Roedd fy hen hen dad-cu wedi ei gladdu yn Eglwys Nanhyfer, a’i gyndeidiau yntau yn Eglwyswrw. Gwelais ei fedd yn 1971 a gwneud copi o’r arysgrif, ond cefais gryn drafferth i ddod o hyd iddo eto ar y wibdaith. Ar ol chwilio’n fanwl am beth amser, a gyda chymorth eraill, fe ddos o hyd iddo yn y diwedd wedi ei orchuddio gan dyfiant o redyn.

Ond pam sôn am hyn ar dudalennau Pobl Ddewi? Mae’r eglurhad wedi ei roi yn barod wrth gyfeirio at y ffaith i’r teulu fod yn ‘eglwyswyr pybyr’. Esgorodd y teulu ar nifer sylweddol o ffeiradon ac esgobion. Roedd Caleb Hughes, brawd Benjamin, yn dad i Joshua Hughes (1807-1889), Esgob Llanelwy, a bu ei fab yntau, Joshua Pritchard Hughes (1847-1938), yn Esgob Llandaf. Roedd fy nhad-cu, Eynon Hughes, yn ficer Trelech a’r Betws ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, a bu ei frodyr iau, Jacob a Thomas, hefyd yn ffeiradon ym Mhenbedw ac Awstralia. A bu John Lloyd (1847-1915), cefnder Lydia Lloyd, mam fy nhad-cu, yn Esgob Abertawe. Ac yn ogystal bu sawl un arall o’r teulu yn gweinyddu yn yr Eglwys.

Pan symudais i Dregaron i fyw ar ddechrau’r 1970au nid oedd gennyf unrhyw gysylltiad â’r ardal, ar wahân i fedru hawlio fod John Hughes (1804-1870), a fu’n ficer lleol, a brawd hŷn yr Esgob Joshua, wedi ei enwi gan George Borrow yn ei gyfrol Wild Wales a gyhoeddwyd yn 1862!: