Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Alpha Barbie!

Alpha Barbie!

Sut gall eglwys leol ymgysylltu â phobl nad ydyn nhw byth yn meddwl camu drwy’r drws? Mae'n gwestiwn mawr! Mae gan Jonathon Wright un ateb newydd.

Ar ddechrau 2025, roedd ardal Fugeiliol Grŵp Eglwysi Abergwaun yn Ardal Weinidogaeth Leol Dewisland Fwyaf yn ymrafael â'r cwestiwn hwn. Wrth edrych o gwmpas ein hardal, buom yn ceisio meddwl am lefydd y byddai pobl yn mynd yn wirfoddol ar gyfer digwyddiad, llefydd y gallem ni eu gwahodd i archwilio ffydd.

Yn Abergwaun, rydym ni’n ddigon ffodus i fod â Theatr Gwaun, theatr a sinema gymunedol annibynnol. Mae’r gymuned wrth ei bodd gyda’r theatr ac mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio’n gyson. Fyddai modd i ni gynnal rhywbeth yno?

Barbie [movie still]

Roedd y cynnig yn syml: gwahodd pobl i ddangosiad di-dâl o Barbie the Movie. Byddai'n deg dweud nad oedd llawer o aelodau cyngor yr eglwys wedi ei weld! Ond y ddemograffeg allweddol yr oeddem ni am ymgysylltu â nhw oedd pobl 18-50, a chytunodd y cyngor eglwysig yn garedig i gefnogi'r syniad.

Roeddem ni wrth ein bodd bod yr Archddiacon Mones Farah wedi cytuno i hwyluso trafodaeth ar ôl y ffilm i helpu pobl i fyfyrio ar rai o’r cwestiynau mawr y mae'r ffilm yn eu codi, a'u gwahodd i archwilio atebion y gallai Cristnogaeth eu codi.

I roi'r prosiect at ei gilydd, bu’n rhaid meddwl am nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys costau archebu’r lleoliad, trwydded i ddangos y ffilm, hufen iâ am ddim i bawb oedd yn dod i'r digwyddiad, hysbysebu'r digwyddiad a deunyddiau dilynol. Daeth hynny i gyd i gyllideb o £900. Diolch i grant hael o £800 gan yr esgobaeth, fe aethom ni ati i drefnu.

Roeddem ni eisiau estyn allan at gymaint o bobl â phosibl a gwahoddwyd eglwysi a chapeli eraill i wneud gwahoddiadau. Dyma’r rheol wnaethom ni benderfynu arno - os oedd rhywun sy'n addoli yn rheolaidd yn dod, roedd yn rhaid i’r person hwnnw ddod â rhywun sydd ddim yn addoli’n rheolaidd gyda nhw.

Archebodd 120 o bobl le i weld y ffilm – pobl o Abergwaun ac o’r ardal gyfagos. Daeth 104 o bobl draw i wylio'r ffilm ar y diwrnod. Ar y diwedd, fe wnaethom ni roi hufen iâ i bawb ac arweiniodd yr Archddiacon Mones drafodaeth 30 munud am y themâu mawr yn y ffilm. Derbyniodd pawb a ddaeth i’r dangosiad wahoddiad i naill ai'r Cwrs Alpha - i'r rhai nad ydynt yn meddwl amdanynt eu hunain fel Cristnogion eto - neu Discipleship Explored - i'r rhai sy’n ystyried eu hunain yn Gristnogion.

Roedd presenoldeb y cwrs yn sicr yn uwch o ganlyniad i'r ffilm. Canlyniad arall oedd ein bod wedi cael cyfle am drafodaeth go iawn yn yr ardal leol a chael sylw ffafriol yn y Western Telegraph ac mae hynny wedi helpu pobl leol i fod yn fwy ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd.