Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Map trywydd i briodas o'r un rhyw

Map trywydd i briodas o'r un rhyw

Mae'r Esgobion yn yr Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi llythyr bugeiliol yn nodi'r camau nesaf tuag at ddirnad a ddylid caniatáu priodasau o'r un rhyw mewn eglwysi.

Mae'r llythyr yn dilyn ymgynghoriad chwe mis a geisiodd farn ar draws pob lefel yn y Dalaith, wrth i'r cyfnod prawf pedair blynedd o Ddefod Bendith arbrofol ddod i ben.

Daw i’r casgliad bod "agweddau Cristnogol tuag at berthnasoedd rhywiol yn fater o gryn ddadlau yn yr Eglwys gyfoes, a’i fod hyd yn oed yn bygwth rhannu'r teulu Cristnogol ledled y byd.

"Mae gan Gristnogion agweddau gwahanol: mae’r sawl sydd o blaid priodas gyfartal yn dadlau o safbwynt cariad cynhwysol Iesu, gydag eraill yn tynnu sylw at ffyddlondeb i'r darlleniad traddodiadol o destunau Beiblaidd ac ni allant gofleidio dealltwriaeth newydd o'r fath.

"Mae eraill wedyn yn dirnad tir canol: maen nhw’n fodlon cynnig bendithion, ac eto nid ydynt eto yn barod i roi'r gorau i’r ddysgeidiaeth draddodiadol bod priodas yn uniad rhwng un dyn ac un fenyw.

"Beth bynnag yw argyhoeddiadau pobl ar y mater hwn... credwn yn gyntaf na ddylai fod yn 'fater sy'n rhannu'r eglwys'.

"Mae'r rhan fwyaf o'r rhai a siaradodd wedi gwneud hynny o blaid y farn bod yr amser yn iawn i gynnig priodas gyfartal i gyplau traddodiadol a chyplau o'r un rhyw. Serch hynny, mae yna ran gref o'n teulu Eglwysig sy'n ei chael hi'n anodd arddel cam o'r fath o fewn eu dealltwriaeth o ffyddlondeb i'r Ysgrythur, ac felly yn ein bywyd cyffredin."

Y penderfyniad, felly, yw gadael i'r Corff Llywodraethol benderfynu. Bydd cynigion yn cael eu rhoi gerbron y Corff Llywodraethol fis Ebrill nesaf i wneud y Ddefod Bendith yn un barhaol. Yna, flwyddyn yn ddiweddarach, bydd cynigion pellach yn ceisio caniatáu gwasanaethau priodas yn yr eglwys i gyplau o'r un rhyw.

Bydd hyn yn caniatáu i'r Corff Llywodraethol benderfynu a ddylid cadarnhau'r ddarpariaeth sydd eisoes wedi'i gwneud ac yna symud ymlaen i ystyried a phenderfynu ar ddarpariaeth priodas gyfartal.

Ym mhob achos, mae'r esgobion yn cydnabod y bydd "argyhoeddiadau dwfn yn dal i amrywio ar y mater hwn ac y bydd yn rhaid parchu'r argyhoeddiadau dwfn hyn o gydwybod wrth geisio dal teulu Duw ynghyd.

"Bydd yn rhaid i unrhyw gynigion gael eu drafftio yn y fath fodd i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei orfodi i weithredu yn erbyn ei gydwybod trwy gymryd rhan mewn darpariaeth o'r fath. Ar yr un pryd, bydd dymuniad llawer sydd mewn perthnasoedd ymrwymedig o'r un rhyw i ymrwymo mewn priodas â'i gilydd yn cael ei ystyried yn llawn."