Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Gweinidogaeth Croeso Newydd

Gweinidogaeth Croeso Newydd

Mae cymuned eciwmenaidd newydd o berthyn wedi'i sefydlu yng Ngorllewin Cymru. Neil Hook sy’n estyn croeso i ni.

Open Table Cake

Wedi'i lansio ym mis Medi 2025, mae Bwrdd Agored Hwlffordd yn cynnig cartref ysbrydol i bobl LHDTCRhA+, eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cynghreiriaid, gan ymgorffori cariad hollgofleidiol Crist yng nghanol Esgobaeth Tyddewi.

Mae'r gymuned newydd hon yn rhan o'r Rhwydwaith Bwrdd Agored eciwmenaidd (OTN), mudiad o dri deg naw o gymunedau ledled y DU sy’n mynd o nerth i nerth. Dyma'r ail gymuned o’r fath i’w rhoi ar waith yng Nghymru, a chafodd ei chreu diolch i gydweithrediad lleol rhwng yr Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, yr Eglwys Fethodistaidd ac enwadau eraill, a oedd i gyd wedi'u huno gan weledigaeth o gynhwysiant llawn ym mywyd yr Eglwys.

A hwythau’n cyfarfod yn Hwlffordd ar yr ail Sul o bob mis am 6.30pm am awr a hanner, mae Open Table yn darparu lle ar gyfer addoliad myfyriol a chadarnhaol, gyda gwasanaeth y Cymun Sanctaidd yn ganolbwynt i’r cyfan, ac yna rhennir pryd o fwyd am ddim gan bawb. Mae'r gwasanaethau wedi'u cynllunio i fod yn hygyrch, gan gyfuno litwrgi traddodiadol â gweddïau a cherddoriaeth gyfoes.

Mae'r gymuned yn seiliedig ar yr argyhoeddiad ysgrythurol fod bwrdd Crist yn agored i bawb, gan adlewyrchu geiriau Sant Paul yng Nghrist, "Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw" (Galatiaid 3:28).

Mae'r gymuned eisoes wedi nodi tymhorau'r eglwys gyda'i gilydd, gan rannu Cymun Cynhaeaf llawen ym mis Hydref, Cymun Cofio ym mis Tachwedd a Chymun Adfent ym mis Rhagfyr.

Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd Agored yn Hwlffordd yn gwasanaethu Gorllewin Cymru gyfan gan gynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae hon yn weinidogaeth newydd fywiog ac amserol i'r esgobaeth. Wrth i ni gamu i mewn i flwyddyn newydd, mae'r gymuned hon sy'n tyfu yn estyn gwahoddiad cynnes i bawb. P'un a ydych chi'n chwilio am gartref ysbrydol, yn archwilio ffydd, neu'n dymuno sefyll mewn undod Cristnogol, mae croeso cynnes i chi.

I ddysgu mwy neu i gymryd rhan, cysylltwch â'r Arweinydd Cymunedol Anglicanaidd: Neil Hook (neilhook@cinw.org.uk) neu â Luke Spencer (lukespencer@cinw.org.uk).