Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Cnwd swmpus yn dwyn ffrwyth

Cnwd swmpus yn dwyn ffrwyth

Cafodd aelodau o Eglwys Teilo Sant Brechfa syniad am ffordd o ddefnyddio toreth o afalau, fel yr eglura warden yr eglwys, Ian Phillips.

Brechfa apples 2

Roedd y cnwd o afalau eleni yn anhygoel, a doedden ni ddim yn siŵr beth i'w wneud gyda nhw nes i Winford Jones (aelod o'r eglwys) a minnau gael y syniad o wneud sudd afal. Felly, gydag ysgolion, bocsys a bagiau siopa aethom ati i gasglu.

Aeth tua 60 cilo o afalau i'r Apple Shed yn Dinefwr Home Farm yn Llandeilo lle’r oedden nhw'n cynhyrchu'r sudd. Cawsant eu brandio fel St. Teilo Apple Juice a’u gwerthu yn y siop gymunedol leol ac o fewn ychydig ddyddiau roedd tua 70 o boteli mawr a bach wedi mynd.

Hefyd, anfonwyd nifer ohonyn nhw i fanc bwyd Cefnogi yn Rhydaman, i’w dosbarthu i bobl anghenus.

Mae’r sudd yn flasus iawn, medden nhw. Gobeithio y gallwn wneud yr un peth y flwyddyn nesaf.