Rhown Ddiolch
Rydyn ni fel Ysgol Penboyr yn cystadlu yn flynyddol yng Nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Eleni, penderfynwyd dysgu am ŵr gafodd ei eni dafliad carreg o’r ysgol – sef Griffith Jones. Ar ôl darganfod ei fod wedi llunio emynau, cawsom syniad o greu emyn ysgol newydd. Lansiwyd ein hemyn o flaen yr Esgob newydd, y Gwir Barchedig Dorrien Davies yng Nghadeirlan Tyddewi. Hefyd, buom yn astudio bywyd a gwaith Madam Bevan yn rhan o’n prosiect. Enillodd yr ysgol un o brif wobrau’r gystadleuaeth a derbyn rhodd ariannol o £800 mewn seremoni yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dyma’r linc i’n prosiect buddugol sydd ar wefan Ysgol Penboyr o dan y pennawd Cymru Cenedl Fwyaf Llythrennog y Byd?
Rhown Ddiolch
Rhown ddiolch, Dduw, am ffrindiau,
Am gymorth i rai bach,
Am bob un gair caredig,
Am wên ac awyr iach,
Ac am gael bod yn deulu dedwydd
Wrth inni ddysgu gyda’n gilydd.
Cytgan:
Rhown ddiolch am ein haddysg
Sy’n cyfoethogi’r daith,
Rhown ddiolch am synhwyrau
Am gariad ac am ffrindiau,
Am werth ein hysgol ninnau,
A diolch yn ein hiaith.
Rhown ddiolch am fyd natur
O’n cwmpas ym mhob man,
Ac am atgofion melys,
A phawb yn gwneud eu rhan,
Am inni weld fod pawb yn cyfri
Ym mhennod newydd hen, hen stori.