Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Gweu yn y Dirgel

Gweu yn y Dirgel

St Nons by Night

Cynhaliwyd encil hydrefol yng Nghanolfan Encil Sain Non yn ystod mis Hydref. Romola Parish oedd yr arweinydd a chafodd y cyfranogwyr brofiadau newid bywyd a gwella bywyd.

Dyma'r cywaith cyntaf rhwng yr Esgobaeth, yr Eglwys Gadeiriol a Sain Non. Mae’r lleoliad bellach ar ei newydd wedd a daeth naw i’r encil o bob rhan o'r Esgobaeth, o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

Treuliwyd wythnos yn plymio i ddyfnderoedd Salm 139, gyda phawb yn gweu ei fyfyrdod a'i naratif ei hun trwy gyfrwng ffabrig, edafedd a geiriau. Roedd y lleoliad trawiadol ger y môr yn gefndir trothwyol ac elfennol i'r teithiau ysbrydol a gafodd pob unigolyn. Roedd yn fendith go iawn gweld pob un ohonyn nhw yn estyn allan i'r anwybod, wrth ymgysylltu’n ysbrydol, trwy ddealltwriaeth weddigar, a chyda thechnegau creadigol newydd.

Autumn Retreat 1

Autumn Retreat 4

Roedd pawb a ddaeth i’r encil wedi creu gwaith cwbl annisgwyl, yn llawn haenau o ystyron, gan gofleidio llawenydd, galar, hiwmor ac, yn anad dim, cariad at Dduw. Rhaid wrth ddewrder i dreiddio i’r hunan a chwilio am rywbeth a all fod yn gyfarfyddiad anghyfforddus â'r Duw byw, ond dangosodd pob un barodrwydd arbennig i wneud hynny. Er ei bod hi’n reit dawel yn ystod y gweithdai yn y bore, roedd gwir ymdeimlad o gefnogaeth a chynhaliaeth. Gwelwyd cyfeillgarwch newydd yn datblygu ar draws ffiniau eciwmenaidd a diwinyddol.

Dim ond mewn lle gwirioneddol fendigaid a diogel y mae modd i’r math yma o gyswllt dwfn neu brofiad sy'n newid a gwella bywyd ddigwydd. Darparwyd hyn yn fendigedig gan ein lletywyr, Eithne a Dominic, yn Sain Non - mae ganddyn nhw’r ddawn i groesawu ac estyn lletygarwch; Janet Ingram o'r Gadeirlan, Swyddog Addysg a Phererindod a'r Canon Offeiriad Sheridan James a roes gefnogaeth ysbrydol i'r encilwyr bob prynhawn. Arweiniodd Janet bererindod hefyd i rai o'r mannau cysegredig ac arbennig o amgylch y Ganolfan Encil, gan ein galluogi i blethu adleisiau ysbrydol y dirwedd i'n teithiau myfyriol ein hunain.

Edrychwn ymlaen at gael dychwelyd i encil arall ym mis Hydref 2025.