Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Ymarfer a pharchu

Ymarfer a pharchu

Addewais ym mis Medi i ddechrau ar y gwaith o drefnu gweithdai i ‘frysio i fyny ar ein litwrgi yn Gymraeg.’ Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf ar Hydref 21ain yn neuadd eglwys Llangyndeyrn, a’r ail a’r trydydd gweithdy ym mis Tachwedd, yn Aberaeron a Begelly.

Mae wedi bod yn bleser mawr cael arwain y gweithdai hyn, a gwelais frwdfrydedd amlwg yn y rhai a ddaeth i’r gweithdai. Roedd hyn yn ysbrydoliaeth i mi, a chefais fy synnu ar yr ochr orau at allu y mwyafrif i ynganu’r litwrgi yn Gymraeg, ac roedd awydd amlwg ganddynt i berffeithio eu Cymraeg. A dwi’n ffyddiog bydd y gweithdai hyn yn magu momentwm wrth i fwy a mwy fanteisio ar y gweithdai a magu mwy o hyder yn yr iaith. Byddaf yn arwain gweithdai tebyg yn y gwanwyn a'r haf. Felly edrychwch allan am ddyddiadau y gweithdai nesaf ar ‘facebook’ yr esgobaeth ar ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Welsh Liturgy

Rwy’n awyddus i atgoffa pawb yn yr esgobaeth ein bod yn gweinidogaethu mewn eglwys ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn rhan annatod o’n diwylliant a’n traddodiad fel Eglwys a chenedl. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â’n cenhadaeth a’n gweinidogaeth bugeiliol, yna mae’n hanfodol bod lle canolog i’r Gymraeg.

Rwy’n cofio pan ymwelais â fy mam mewn cartref yr henoed ychydig flynyddoedd yn ol, pan oedd y clefyd dementia wedi cydio yn ei meddwl, a phrin y gallai siarad: ond mewn ennyd o eglurder, dywedodd wrth un o’i gofalwyr: “Chi'n dda i fi.” Nid oedd gan y gofalwr unrhyw syniad beth oedd fy mam wedi'i ddweud wrthi, ac nid oedd gan unrhyw un arall yn y cartref syniad ychwaith. Ond pan adroddodd y gofalwr eiriau fy mam yn ôl i mi, roeddwn i'n gallu dweud wrthi beth roedd fy mam yn ei mamiaith wedi ceisio ei gyfleu iddi.

Ac yng nghyd-destun gweinidogaeth yr eglwys, gall yr anallu i ddeall iaith ein praidd effeithio ar ein cysylltiad personol â’n praidd ac ar ein heffeithiolrwydd bugeiliol. Rwyn ymwybodol nad yw’n hawdd i ddysgwyr fod yn rhugl yn y Gymraeg, ond mae’n arwydd o barch at yr iaith ac at ein plwyfolion, sydd ond yn gysurus yn mynegi eu hunain yn ei mamiaith, i wneud ymdrech deg i ymarfer yr iaith. Gall hyn wneud byd o wahaniaeth i effeithiolrwydd bugeiliol y rhai sydd gan gyfrifoldeb gweinidogaethol yn ein hesgobaeth.

Cyhoeddiad: Gwasanaeth Plygain yn yr Eglwys Gadeiriol - nos Wener Rhagfyr 13eg 7yh. Croeso cynnes i bawb.

Ein defnydd o gwcis

Rydyn ni’n defnyddio cwis angenrheidiol i wneud i'n safle weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dadansoddi sy'n ein helpu i wneud gwelliannau drwy fesur sut rydych chi'n defnyddio'r safle. Bydd y rhain yn cael eu gosod dim ond os ydych chi'n eu derbyn. I gael gwybodaeth fanylach am y cwcis rydyn ni'n eu defnyddio, edrychwch ar ein tudalen Cwcis.

I gael gwybodaeth fanylach am y cwcis rydyn ni'n eu defnyddio, edrychwch ar ein tudalen Cwcis

Cwcis angenrheidiol

Ymlaen
I ffwrdd

Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi swyddogaethau craidd fel diogelwch, rheoli rhwydwaith, a hygyrchedd. Gallwch analluogi'r rhain trwy newid gosodiadau eich porwr, ond gall hyn effeithio ar sut mae'r wefan yn gweithredu.

Cwcis dadansoddi

Ymlaen
I ffwrdd

Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi’n ei defnyddio. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, ewch i’n 'Tudalen Cwcis'.

Eich dewisiadau preifatrwydd ar gyfer y wefan hon

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis a thechnolegau storio gwe eraill i wella'ch profiad y tu hwnt i'r swyddogaethau craidd angenrheidiol.