Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Undod mewn Darganfod

Undod mewn Darganfod

Interfaith Week 2020-1 [Shirley Murphy]

Mae caniatáu i’n calonnau a'n meddyliau fod yn agored i ddarganfod yn un o'r rhoddion mwyaf y gallwn ei roi i ni'n hunain ac i’r rhai o'n cwmpas. Dyna farn y Swyddog Rhyng-ffydd, Shirley Murphy:

Nod Wythnos Rhyng-ffydd yw cryfhau cysylltiadau da, cynyddu ymwybyddiaeth o'r gwahanol a’r amrywiol gymunedau ffydd a chynyddu dealltwriaeth rhwng pobl o gredoau crefyddol ac anghrefyddol. Mae dathlu ac adeiladu ar y cyfraniad mae aelodau o wahanol gymunedau ffydd a diffydd yn ei wneud i'w cymdogaethau ac i gymdeithas yn ehangach yn ganolog i'r nodau hyn.

Mae digwyddiadau a gweithgareddau wedi'u cynllunio sy'n tynnu sylw at y gwaith amhrisiadwy a wneir gan sefydliadau a grwpiau ffydd cymunedol ac sy’n hyrwyddo dealltwriaeth a goddefgarwch rhwng pobl â chredoau crefyddol ac anghrefyddol.

Un achlysur o'r fath oedd digwyddiad Cyngor Rhyng-ffydd Cymru sef Dathliad o Ffydd ac Undod, a gynhaliwyd yn Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, Caerdydd.

Interfaith Week 2024-2

Gofynnwyd i siaradwyr sôn am ddynes wych a oedd yn perthyn i’w crefydd. Y dduwies Andal (neu Godadevi) ddewiswyd gan y siaradwraig Hindŵaidd. Mae Andal yn ffigwr benywaidd pwysig yn Ne India. Bydd pobl yn aml yn sôn am ei chariad pur a'i hymroddiad ac am ei barddoniaeth, lle mae'n taro nodyn hunangofiannol wrth drafod ei chariad at ei Harglwydd.

Siaradodd yr Iddewes am Esther, merch Iddewig ifanc a oedd yn byw fel alltud ym Mhersia ac a gafodd ei ffafrio gan y brenin, gan ddod yn frenhines. Mae Esther yn peryglu ei bywyd i achub y bobl Iddewig rhag cael eu difa ar ôl i Haman, sef swyddog y llys, berswadio'r brenin i awdurdodi pogrom yn erbyn holl Iddewon yr ymerodraeth.

Bibi Nanaki oedd dewis y Sikhiaid. Hi oedd chwaer hynaf Guru Nanak, sylfaenydd a Guru cyntaf Sikhiaeth.

Yn olaf, dewis y siaradwr Mwslimaidd oedd Naseebah bint Ka'ab, rhyfelwraig a ymladdodd i achub Muhammad, y proffwyd Islamaidd, mewn brwydr. Roedd yn un o'r merched cyntaf i droi i’r ffydd Islam ac roedd yn ddisgybl i'r Proffwyd Muhammad.

Wrth fod yn chwilfrydig am fywydau pobl eraill, rydyn ni'n darparu lle i bawb allu bod yn nhw eu hunain a chyfarfod â’n gilydd lle rydyn ni, fel rydyn ni. Mae dysgu am eraill yn ein gwneud ni’n agored i wahanol ffyrdd o fod; gwahanol ddiwylliannau, credoau, safbwyntiau, ffyrdd o ddathlu cylch bywyd, ac wrth gwrs - bwyd blasus!

Trwy ddarganfod, gallwn herio rhagfarn a chamddealltwriaeth, o’r tu mewn i ni ac yn y byd o'n cwmpas. Does dim angen i ni ddeall ein gilydd er mwyn caru a pharchu ein gilydd. Ond mae meithrin chwilfrydedd yn gam pwerus tuag at adeiladu pontydd rhwng cymunedau.