2025: Blwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
Sophie Whitmarsh sy’n rhoi trosolwg byr o'r flwyddyn i ddod, gan dynnu sylw at rai o'r prif bethau y gallwch chi ddisgwyl eu gweld a'u profi, ac yn eich atgoffa o ble allwch chi ddod o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Felly, mae’r Flwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd ar gychwyn. Trwy gydol y flwyddyn gallwch ddisgwyl gweld cyfres o ddigwyddiadau a all ein helpu i ymgysylltu â phlant, ieuenctid a theuluoedd ar draws yr esgobaeth, adnoddau a chymorth i'ch helpu gyda'ch gwaith plant, ieuenctid a theuluoedd eich hun a diweddariadau rheolaidd trwy gyfrwng blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, trwy Pobl Dewi, gwefan yr esgobaeth, a gwefan a chylchlythyr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd.
Rwy’n gweddïo bod pawb yn teimlo y gallant gyfrannu at y gwaith pwysig hwn ac y bydd pawb, erbyn diwedd y flwyddyn, yn teimlo'n hyderus ac yn meddu ar adnoddau da i barhau â'r gwaith hwnnw.
Mae Michelle Lloyd a minnau wedi dechrau cynllunio cyfres o fideos a fydd ar gael yn rhwydd ar YouTube i'ch helpu. Byddant yn cynnwys yr hanfodion, fel gwneud asesiadau risg a sut i fynd ati i ddechrau grwpiau, yn ogystal â llunio a chynllunio gwasanaethau mewn ysgolion neu ddechrau eich Llan Llanast eich hun. Bydd y fideos hyn yn cael eu rhannu yn fideos 10 munud, felly gallwch ddewis a dethol y darnau perthnasol i chi a chael yr adnoddau sydd eu hangen arnoch yn gyflym a hawdd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y fideos cyntaf ar gael, a gallwch danysgrifio i'r sianel YouTube Plant, Ieuenctid a Theuluoedd. Fy mwriad yw sicrhau bod y rhain ar gael cyn diwedd 2024. Yn ogystal â fideos, rwy’n awyddus bod gen i amser rhydd i’ch cefnogi yn eich ymdrechion ar sail 1:1, gan obeithio eich helpu i fagu hyder.
Mae nifer o ddigwyddiadau ar y gweill. Y cyntaf fydd y digwyddiad lansio ar 12 Rhagfyr yn yr Eglwys Gadeiriol, tri pherfformiad o'r Dioddefaint gan gwmni theatr LAMPS yn yr Wythnos Fawr, Gŵyl i Blant a fydd ar daith ym mis Mai, y Bererindod Ieuenctid ym mis Awst, Gŵyl Rhyddid i deulu'r eglwys gyfan ym mis Awst, a llawer mwy - bydd digon o gyfle i gymryd rhan.
Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf neu os hoffech wirfoddoli, anfonir Cylchlythyr misol Plant, Ieuenctid a Theuluoedd o gyfnod yr Adfent ymlaen atoch. Tanysgrifiwch drwy fynd i www.stdavidscyf.org.uk. Byddaf hefyd yn postio'n rheolaidd ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol: www.facebook.com/StDavidsCYF neu Instagram cyfstdavids. Fel arall, gallwch glicio ar y dudalen Plant, Ieuenctid a Theuluoedd ar wefan yr esgobaeth a byddaf yn ysgrifennu ar gyfer Pobl Dewi hefyd. Os bydd popeth arall yn methu, gallwch anfon e-bost ataf: sophiewhitmarsh@cinw.org.uk neu godi’r ffôn: 07870 415378