Y Gymuned Ddysgu
Ar draws yr Eglwys yng Nghymru, mae'r chwe esgobaeth bellach yn defnyddio'r hyn rydyn ni’n eu galw’n Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol. 10 mlynedd ar ôl eu sefydlu, mae'n bryd pwyso a mesur. Roedd Sue Henley a'r Parchedig Jonathan Wright yn rhan o'r broses.
Gyda’r esgobaethau wedi rhoi’r Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol ar waith, pob un yn ei ffordd ei hun, mae'r eirfa a ddefnyddir a’r trefniadau gweinyddol yn wahanol. Ond mae gan y strwythur hwn yn fras yr un pwrpas: bywyd cynaliadwy cymunedau Cristnogol lleol, gyda ffocws ar greu timau ar gyfer gweinidogaeth a chenhadaeth.
Mae pob esgobaeth wedi mynd ar ei thaith ei hun a chawn ddarlun eithaf amrywiol. Felly cytunodd Mainc yr Esgobion y byddai'n ddefnyddiol pwyso a mesur. Ym mis Tachwedd, cyfarfu deg o gynrychiolwyr o bob esgobaeth, ynghyd â deg o Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, mewn gwesty ger Amwythig. Dyma’r Gymuned Ddysgu.
Roedd y cyfarfod yn cynnwys chwe sesiwn. Cyflwynwyd a hwyluswyd pob un gan wahanol bobl a fynychodd y digwyddiad.
- y daith hyd yn hyn;
- diwylliant a chyd-destun, gwytnwch emosiynol a llesiant;
- hunaniaeth a gweledigaeth, yna arweinyddiaeth, galwedigaeth a hyfforddiant;
- llywodraethu, cyllid, gweinyddu ac adeiladau;
- sut olwg sydd ar Ardal Weinidogaeth Leol iach;
- myfyrdodau ac arsylwadau.
A ddysgwyd unrhyw beth yn y digwyddiad? Mewn gair, do. Daeth pawb oddi yno gydag ymdeimlad o ba mor amrywiol oedd y dulliau a oedd ar waith ar draws y Dalaith, ac ymwybyddiaeth o’r problemau cyffredin yr oedd pawb yn eu hwynebu. O safbwynt yr awduron, y sesiynau mwyaf defnyddiol oedd y rhai lle'r oedden ni’n ystyried pynciau fel grŵp esgobaethol. Cafwyd trafodaeth onest. Fel grŵp Esgobaethol, daethom o hyd i iaith drafod a oedd yn canolbwyntio fwyfwy ar Grist.
Roedd ambell thema wedi’i hepgor o’r Gymuned Ddysgu. Doedd cenhadaeth ac efengylu ddim ar yr agenda - bwlch braidd yn frawychus. Roedd yn nodedig fod yr esgobaethau wedi dod â llawer mwy o archddiaconiaid na lleygion, ac roedd yr ystafell braidd yn anghytbwys, gyda mwy o’r brig yn cael eu cynrychioli. Gellid dadlau y byddai'r trafodaethau wedi elwa ar fwy o amrywiaeth o brofiad a mwy o amser ar gyfer trafodaethau mewn grwpiau bach.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweld pwy yn union fydd yn dysgu o'r digwyddiad, a beth y byddan nhw’n dysgu. Yn amlwg, mae gan Esgob Dorrien a'r uwch staff ddigon i'w helpu wrth iddyn nhw lunio strategaeth yr esgobaeth. Ond bydd yr effaith wirioneddol i’w gweld yn yr Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol. Rydyn ni’n gofyn ychydig o gwestiynau i'r darllenydd eu hystyried:
- Sut fyddech chi’n disgrifio Ardal Weinidogaeth Leol iach?
- Ydy hyn yn swnio fel eich Ardal Weinidogaeth Leol chi? Os na, sut allech chi ei helpu i ddilyn y trywydd cywir?
- Sut allem ni annog a hwyluso mewn modd buddiol y math yma o ddigwyddiad yn ein hesgobaeth? Beth fyddai'n bwysig yn y trafodaethau?