Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Cymuned y Ffordd

Cymuned y Ffordd

Mae’r weledigaeth sydd gan Matthew Webster o gael cymuned fynachaidd yn yr esgobaeth yn cael ei gwireddu

Matthew Webster Llansteffan

Mae yna gryn amser wedi mynd heibio ers i mi ysgrifennu am y tro cyntaf am fynachaeth a'r bywyd crefyddol yn yr esgobaeth. Mae’r hyn a oedd bryd hynny'n syniad ac yn ymdeimlad o alwad Duw, bellach yn troi’n realiti, gyda'r Esgob yn ei garedigrwydd yn caniatáu inni ddechrau sefydlu Cymuned y Ffordd yn Llansteffan.

Cymuned fynachaidd yw hon, ac ystyr hynny yn ddigon syml yw y gwelir Duw yn holl amrywioldeb bywydau a rennir. Rydyn ni’n ymroi i weddi a byw bywyd syml o dan fynegiant newydd o'r canllawiau a gofnodwyd gan Sant Bened 1500 o flynyddoedd yn ôl. Rydyn ni’n gymuned sy'n dathlu ac yn cadarnhau pob unigolyn.

Dydyn ni ddim am i bobl gael perthynas arwynebol â Duw ond yn hytrach, eu bod yn dod o hyd i ddyfnder, angerdd a rhyfeddod wrth gyfarfod ag Ef, mewn modd a fydd yn eu tywys drwy fywyd a holl droeon yr yrfa. Rydyn ni’n awyddus i bobl adnabod sicrwydd presenoldeb cyson Duw gyda nhw ac ynddyn nhw. Felly rydyn ni'n cynnig lle ar gyfer prentisiaeth a dysg, fel y gallwn ni i gyd dyfu gyda'n gilydd yn ddisgyblion i Grist.

Credwn fod modd profi Duw yn yr awyr agored yn y greadigaeth a bod hynny'n gyfle inni greu lle diogel i ofyn cwestiynau a chwrdd â Duw ar dir a môr fel ei gilydd. Trwy deithio’r cefnfor mae modd profi harddwch gwyllt Duw a chael y cyfle i ddod o hyd i heddwch weithiau yng nghanol rhyferthwy’r storm.

Rydyn ni’n ymroi i fod yn lle sefydlog, yn fynegiant o gariad Duw tuag at bawb. Daw'r ysbrydoliaeth wrth i ni ganfod Duw a chanfod cariad a derbyniad gan Dduw. "Iesu yw fy ffrind, fy angerdd a'm cariad, dwi am i eraill allu bod yn rhydd i ddeall a theimlo'r un angerdd a chariad". Ein gobaith yw y gall eraill brofi croeso radical gyda ni o gwmpas y bwrdd, lle i ddod i ymlacio a rhannu. Hefyd, rydyn ni am groesawu'r rhai sy'n chwilio ac yn ymholi heb eu barnu. Rydyn ni’n lle cenhadol.

Byddaf yn trafod y themâu hyn yn y ddau rifyn nesaf. Rydyn ni wrthi'n chwilio am bobl sydd eisiau ymuno â ni, naill ai yn Llansteffan neu fel aelodau gwasgaredig o'n cymuned.

I gael rhagor o wybodaeth am weithredu neu i gysylltu â ni, ewch i’n gwefan. www.comunityoftheway.org.uk