Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Achub Clychau Penfro

Achub Clychau Penfro

Pembroke Bells

Anne Bunker, o Urdd y Clochyddion yr esgobaeth, sy’n rhoi diweddariad ar brosiect adfer yn Eglwys y Santes Fair.

Flwyddyn yn ôl, cafodd ein prosiect addewid y byddai’n derbyn rhan fach o’r Gronfa Ffyniant Bro gwerth £10.5 miliwn a ddyrannwyd i Gyngor Sir Penfro i'w wario ar Dref Penfro.

Pembroke Bell Retsoration

Yn anffodus, dydy hynny ddim wedi digwydd (eto) felly mae clochyddion Eglwys y Santes Fair yn parhau i godi'r arian sydd ei angen i adfer yr wyth cloch, a’u cynyddu i ddeg, er mwyn gwarchod y grefft hynafol o ganu clychau ac arbed a gwella seinwedd y dref ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae cwisiau, cyngherddau a raffls wedi cael cefnogaeth frwd gan bobl leol, sydd wrth eu bodd yn clywed y clychau, er nad ydyn nhw i gyd yn mynychu addoliad yn rheolaidd yn yr eglwys. Mae'r clychau'n atgoffa pobl bod yr eglwys yno, yng nghalon y gymuned. Yn ogystal â newid yr holl osodiadau a’r ffitiadau ar gyfer y clychau a ffrâm y clychau a'r trawstiau cynnal, mae angen ailosod y tri llawr yn y tŵr Normanaidd ar frys. Cost lawn yr holl waith arbenigol hwn yw £200,000.

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod newydd dderbyn grant o £8,000 gan Ymddiriedolaeth Barron Bell ac mae dwy o'r tair cloch newydd sydd eu hangen i gwblhau'r prosiect wedi eu derbyn fel rhodd. Bydd enw'r person sydd wedi rhoi’r gloch yn cael ei nodi mewn un gloch ac enw'r teulu yn y gloch arall. Mae'r hynaf o glychau'r Santes Fair yn dyddio i 1765. Felly, dylai'r clychau newydd barhau i ganu nes 2283!

Mae'r Nadolig yn dymor y clychau. Os ydych chi'n chwilio am anrheg arbennig a fydd yn parhau i roi llawenydd am gannoedd o flynyddoedd, rhowch ran o'n Prosiect Adfer y Clychau i’ch anwylyd https://pembrokebellrestoration.wales/gifts-ideas-christmas Gellir arddangos eich enw ar fwrdd a gwefan y noddwyr.

Yn y cyfamser, yn Llandeilo...

Mae gwirfoddolwyr o Urdd y Clochyddion hefyd wedi bod yn brysur yn Llandeilo, gan helpu Blyth & Co Church Bell Specialists i sefydlogi llawr siambr y clychau a ffrâm y clychau yn Eglwys Teilo Sant.

Mae'r Urdd yn gobeithio y bydd y chwe chloch yn ôl yn gweithio cyn hir fel y bydd y gynulleidfa a chymuned Llandeilo yn gallu mwynhau sŵn y clychau unwaith eto.