Halen a Goleuni
Mae'r Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol, Justin Arnott, yn awgrymu beth o bosibl fydd gwaddol y deuddeg mis diwethaf
Wrth i ni nesáu at ddiwedd y Flwyddyn Cyfrifoldeb Cymdeithasol, dwi’n gresynu gorfod gwneud 'adolygiad blwyddyn' ond mae'n ymddangos fel pe bai'n dechrau eisoes!
Oherwydd, wrth i ni weld 'Blwyddyn y...' yn llifo i mewn i 'Flwyddyn y...' arall, y pwynt cyffredinol o ddefnyddio Halen a Goleuni fel delwedd ar gyfer eleni oedd mai dyma'r pethau bychain sy'n cael yr effaith fwyaf yn aml. Pethau bychain sy’n cael eu gwneud dros amser neu sydd hyd yn oed wedi’u gwneud yn bell yn ôl sydd wedi newid cwrs hanes, neu wedi cael effaith bellgyrhaeddol arnom yn bersonol.
A ninnau yn nhymor y Cofio, priodol yw cael ein hatgoffa nid yn unig am y flwyddyn ddiwethaf ond am yr aberthau hynny, na allwn eu galw’n fychain, a wnaed gan gynifer mewn rhyfeloedd ddoe a heddiw; ac yn wir i'r aberth eithaf a wnaed gan ein Harglwydd a'n Gwaredwr Iesu Grist. Dylai ein gweddi am i ni gael ein harbed rhag gwneud yr aberth hwnnw ein hannog i fyw ein bywydau gan sicrhau na fydd byth yn digwydd eto.
Ond sut? Wel, er gwaetha’r ailadrodd, drwy wneud y pethau bychain - annog deialog rhwng ffrindiau a theulu sydd wedi cweryla; penderfynu cymryd agwedd gadarnhaol pan allem fod wedi ein tramgwyddo; dewis maddau; dangos cefnogaeth i'r rhai sy'n peryglu eu bywydau, gan ddeall ar yr un pryd nad yw 'cefnogi'r milwyr' yn gyfystyr â gogoneddu rhyfel nac annog trais. Ni ddylai ychwaith fod yn ddatganiad gwag heb unrhyw gamau gweithredu. Gwisgwch babi, neu yn well fyth, ymunwch â'r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae eu gwaith yn llawer mwy na dim ond ymgyrch codi arian Apêl y Pabi.
Ond yn fwy na hynny, byddwch yn galonnog. Yn wyneb gweithredu milwrol cynyddol yn y Dwyrain Canol, y rhyfel parhaus rhwng Wcráin a Rwsia a'r 100 a mwy o anghydfodau arfog eraill ledled y byd, byddai'n hawdd meddwl mai ychydig iawn y gellir ei wneud. Ac eto mae gennym dystiolaeth am unigolion sydd wedi gwneud newid dros heddwch - enwau mawr gan gynnwys pobl fel Mahatma Gandhi, Nelson Mandela, Martin Luther King, Jr. neu'r Archesgob Desmond Tutu sy'n cael ei ddyfynnu yn dweud "Gwnewch dipyn bach o ddaioni lle rydych chi; dyma’r union ddarnau bach o ddaioni gyda’i gilydd all orchfygu’r byd." Canu cloch?
Neu efallai fod y darn nesaf yn fwy cyfarwydd i chi.
Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef. Ioan 1:5