Adfer Afonydd Cymru
Swyddog Gofal am y Greadigaeth Marcus Zipperlen yn adrodd o uwchgynhadledd a alwyd gan Archesgob Cymru
Ac yntau'n ymwybodol o gyflwr gwael iawn afonydd Cymru, gwelodd yr Archesgob Andy John gyfle i'r Eglwys yng Nghymru - fel sefydliad dibynadwy a niwtral sy'n bresennol ym mhob cwr o'r wlad - gynnull nifer o gyfranogwyr gweithredol yn ein hafonydd i drafod y problemau a chwilio am ffyrdd o'u goresgyn, o wyddonwyr i lunwyr polisïau, o elusennau i ffermwyr a grwpiau cymunedol.
Y broblem
Clywsom am yr hyn sy'n peri i'n hafonydd farw gyda dwy ran o dair o lygredd yn dod o ffermio ac un rhan o dair o drefi a phobl; sut mai'r troseddwyr go iawn yw’r unedau ffermio llaeth dwys ac unedau ieir ffatri. Clywsom mai'r prif lygrydd yw'r ffosfforws a ddefnyddir yn helaeth ym myd amaeth fel gwrtaith, ac a geir mewn carthion a slyri anifeiliaid.
Clywsom hefyd sut mae tymereddau cynyddol yn lladd ein Heog yr Iwerydd brodorol oherwydd eu bod ond yn deor mewn dŵr oer, a sut mae crynodiadau cynyddol o gemegau fferyllol yn achosi problemau i lawr yr afon o drefi. Yn anad dim, fe ddysgon ni sut mae problemau ein hafonydd truenus yn gymhleth, yn cyd-berthyn ac yn berthnasol ar draws ffiniau gwleidyddol a gweinyddol, gan ei gwneud hi’n ofynnol i ni ymateb ar sail dalgylchoedd afon cyfan.
Yr ateb?
Trodd y drafodaeth nesaf at rai o'r atebion i'r problemau hyn. Sut gallwn ni leihau faint o ffosfforws newydd a ychwanegwn i’r tir trwy gymhwyso gwyddor pridd yn well, a thrwy adennill ac ailddefnyddio ffosfforws o slyri a charthion? Fe ddysgon ni sut mae economeg amaethyddol gyfredol yn gyrru ffermwyr i ddwysáu eu hamaethu mwy fyth er mwyn bod yn broffidiol oherwydd mai dim ond un geiniog ym mhob punt sy'n cael ei gwario ar fwyd sy'n cyrraedd yn ôl i'w pocedi, a sut mae hyn yn gwthio ffermwyr i gynyddu nifer yr anifeiliaid ar eu tir, neu adeiladu unedau dofednod ffatri.
Buom yn archwilio sut mae cymorthdaliadau amaethyddol newydd a gynlluniwyd i gefnogi rheoli tir yn gynaliadwy lawn cymaint â chynhyrchu bwyd yn dechrau newid economeg ffermydd er gwell. Ac fe glywson ni am ddewrder rhai ffermwyr sy'n gofalu am eu tir ac yn lleihau llygredd er gwaethaf economeg anffafriol.
Cafwyd disgrifiad bywiog o sut mae gwlyptiroedd yn symudwyr ardderchog o lygryddion a sut y gallai adfer glannau afonydd coediog helpu'n fawr; a sut mae Dŵr Cymru yn gwario biliynau dros y pum mlynedd nesaf i uwchraddio eu gwaith dŵr gwastraff, a sut maen nhw gymaint yn fwy agored gyda'u gwybodaeth na'r cyfleustodau preifat yn Lloegr.
Yn galonogol, fe wnaeth y prif weinidog, Eluned Morgan, annerch y gynhadledd yn fyr a gofynnodd i ni roi ein pum cam gweithredu gorau iddi i helpu afonydd Cymru, felly'r cam nesaf yw hidlo drwy’r hyn a drafodwyd a gwneud yn union hynny.
https://www.churchinwales.org.uk/cy/about-us/our-campaigns/restoring-welsh-rivers-summit/