Ail-ystyried hanes
Mae cynnal digwyddiadau gyda phartneriaid yn ein helpu i ddysgu rhagor am yr Eglwys Gadeiriol, medd Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Yn rhifyn yr haf o Pobl Dewi, roedden ni’n edrych ymlaen at gyfres o ddigwyddiadau gyda phartneriaid a oedd ar fin digwydd. Bu’n hynod ddiddorol croesawu i'r Eglwys Gadeiriol a’r llyfrgell a'i chasgliadau hanesyddol Gymdeithas Archeolegol Prydain, Cymdeithas Hanesyddol Tyddewi a Phebidiog, Fforwm Cerrig Cymru, Cymdeithas Henebion Eglwysi’r DU, Cymru’r Gyfraith, Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Henffordd, yn ogystal â gweithio gyda Cadw ar ymgyrch Drysau Agored a deg digwyddiad yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd.
Byddwn yn fynych yn dysgu pethau am fywyd blaenorol ein Heglwys Gadeiriol gan yr ymwelwyr gwybodus hyn. Er enghraifft, mae'n amlwg bod rhai darnau pres mawr ar feddrodau'r oesoedd canol yng Nghôr y Gadeirlan a Chapel presennol y Drindod. Y cyfan sydd ar ôl o'r arwyddion hyn o gyfoeth a theyrngedau i bwysigrwydd y rhai a gladdwyd isod, yw ambell i bin pres a nodwyd yn ddiweddar yn y Côr. Fodd bynnag, cafodd y pres ysblennydd ar feddrod Edmwnd Tudur ei ailosod. Felly gallwn barhau i’w edmygu gan iddo gael ei osod yn wreiddiol gan Harri VII er cof am ei dad.
Rydyn ni hefyd wedi cael ein hannog i gwestiynu ein dealltwriaeth flaenorol fod llawer o’r wynebau ar feddrodau o amgylch yr Eglwys Gadeiriol wedi eu torri i ffwrdd ar adeg un o’r delwddrylliadau dros y canrifoedd. Nododd arbenigwyr o Fforwm Cerrig Cymru fod y fandaliaeth dybiedig yn cyfateb i linellau naturiol yn y Garreg. Felly gallai'r difrod fod yr un mor hawdd fod wedi ei achosi gan hindreuliad a lamineiddiad naturiol, yn enwedig gan fod rhai o'r lleoliadau y tu allan i'r adeilad yn ystod cyfnodau o esgeulustod. Dyma safbwynt hollol wahanol wrth drafod ein cyndadau a'u beddrodau.
Rydyn ni’n parhau i rannu darganfyddiadau newydd fel hyn wrth gynnal teithiau i rannau dieithr o'r Eglwys Gadeiriol dan arweiniad tîm y Llyfrgell. Os oes grwpiau eraill o’r esgobaeth am ymuno â'r teithiau, mae croeso i chi anfon gair i Library@StDavidsCathedral.org.uk
Rydyn ni’n parhau i agor y Llyfrgell ar brynhawniau Llun a Gwener. Rydyn ni wrthi’n gweithio ar yr holl drefniadau ar gyfer cynhadledd flynyddol Cymdeithas Archifau, Casgliadau a Llyfrgelloedd y Cadeirlannau, sef y gyntaf i’w chynnal yng Nghymru ar 17, 18 a 19 Mehefin 2025. Mae hyn yn cynnwys sesiynau ar y Diwygiad Protestannaidd a'r Beiblau cyntaf yn y Gymraeg ac ar Gerallt Gymro a'i waith ym mhobman o Henffordd i Rufain. Bydd sesiwn arbennig hefyd ar Lyfrgelloedd Cadeirlannau Iwerddon.