O Deuwch ac Addolwn
Mae cwrs Adfent yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer 2024 ar y gweill
Bwriad O Deuwch ac Addolwn yw cryfhau ein ffydd trwy gydol cyfnod yr ŵyl, o Adfent 1 hyd at yr Ystwyll. Mae'n cynnwys cyflwyniad gan Archesgob Cymru ac yna chwe sesiwn lawn, pob un dan arweiniad un o’r Esgobion esgobaethol.
Gall pobl ddilyn y cwrs ar eu pen eu hunain neu fel grŵp neu gymuned fach. Mae fideo ar ddechrau pob sesiwn, lle mae’r Esgob yn trafod darn o'r Ysgrythur, dau aelod lleyg yn dweud sut mae themâu'r darn yn berthnasol i’w bywydau nhw, ac yna ceir cwestiynau trafod i chi gnoi cil yn eu cylch yn eich astudiaeth gyda'ch gilydd.
Yn ogystal â'r fideo, mae pob adran yn cael ei hategu gan adnoddau sydd ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru: https://www.churchinwales.org.uk/cy/evangelism/o-come-let-us-adore-him-advent-course-2024/
Mae'r sesiwn agoriadol yn gyflwyniad gan yr Archesgob ac mae’n seiliedig ar Salm 57.
Mae Sesiwn 2 (Adfent 1), dan arweiniad yr Esgob Gregory (Llanelwy), yn trafod Luc 21:25-36 ac yn cynnwys cyfweliadau â phobl am eu profiadau o ymdopi â rhyfel a newid hinsawdd
Mae Sesiwn 3 (Adfent 2), gyda'r Esgob Cherry (Mynwy) yn ystyried Luc 3: 1-6 a'r ffordd y mae'r darn hwn yn sefydlu'r byd y mae Ioan Fedyddiwr a Iesu yn dysgu ynddo - byd o Ymerodraeth a gormes. Mae'r drafodaeth yn canolbwyntio ar y gormes a welwn yn ein byd heddiw, a sut y gallwn ddefnyddio ein ffydd i ddeall a datgymalu cyfundrefnau gormesol.
Mae Sesiwn 4 (Adfent 3) yn edrych ar Luc 3: 7-18 gyda'r Esgob John (Abertawe ac Aberhonddu). Mae’n ystyried y ffigwr rhyfedd, Ioan Fedyddiwr, wrth iddo ddysgu yn yr anialwch. Mae'n awgrymu ffyrdd y gallwn ni addysgu a dysgu yn yr anialwch.
Mae Sesiwn 5 (Adfent 4) yng nghwmni’r Esgob Mary (Llandaf). Mae'n ystyried Luc 1:39-45, ac yn archwilio'r cyfarfyddiad rhwng Mair a'i chyfnither Elisabeth tra roedden nhw'n feichiog gyda Iesu a Ioan Fedyddiwr.
Yr Esgob Dorrien sy'n arwain y sesiwn ar gyfer Dydd Nadolig. Bydd ef a'i westeion yn ystyried Luc 2: 1-20, hanes y bugeiliaid yn ymweld â'r baban Iesu. Mae'n trafod yr heddwch a'r undod y dylem ymdrechu amdanyn nhw yn ein cymunedau.
Yn olaf, mae'r Esgob David (Enlli) yn cymryd Mathew 2: 1-12 fel y testun ar gyfer yr Ystwyll. Mae'n edrych ar y daith a gymerodd y doethion, ac yn sôn am bobl yn mynd ar bererindodau heddiw.
Mae'r gyfres gyfan ar gael fel y gellir ei defnyddio pryd bynnag sydd orau i unrhyw grŵp.