Does dim byd byth yn newydd!!
Edrych ymlaen at Flwyddyn Croeso Cymru 2025 a sut y gallwn gymryd rhan, yng nghwmni’r Swyddog Twristiaeth Ffydd, Caroline Evans
Mae Croeso Cymru, adran marchnata twristiaeth Llywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, newydd gyhoeddi ei thema ar gyfer 2025 - "Blwyddyn Croeso".
Dangosodd ymchwil ymhlith ymwelwyr fod y croeso cyfeillgar y mae ymwelwyr yn ei gael yng Nghymru yn rheswm allweddol pam mae llawer yn dewis dychwelyd dro ar ôl tro a bod hynny’n "deyrnged i ddiwylliant Cymru a'i phobl’. Dyma felly’r prif reswm i Croeso Cymru ddewis thema 'Croeso' ar gyfer 2025. "Nod Blwyddyn Croeso yw dathlu'r ffyrdd gwahanol ac amrywiol y gall pobl o bob rhan o'r DU a'r byd deimlo eu bod yn cael eu croesawu pan fyddan nhw’n mynd ar wyliau i Gymru. Bydd yr ymgyrch farchnata yn cychwyn ym mis Ionawr gyda phwyslais mawr ar "Hwyl", mwynhau a chael amser da gydag eraill, boed yn ffrindiau, deulu neu gymuned.
Wrth wrando ar weminar Croeso Cymru ym mis Hydref, roedd gen i deimlad pendant o déjà vu – onid yw pob un ohonom yn yr Eglwys yn gwneud hyn beth bynnag, flwyddyn ar ôl blwyddyn? Yn y cyfnod cyn y Nadolig, rydyn ni i gyd yn brysur; yn atgyweirio, glanhau, addurno, paratoi i groesawu ein hymwelwyr, boed hynny i'n heglwys neu i'n cartrefi. Mae'r diwydiant dodrefn yn gwerthu mwy o soffas ym mhedwerydd chwarter y flwyddyn nag ar unrhyw adeg arall! Nid drwg o beth, fodd bynnag, yw ystyried pa mor groesawgar yw ein heglwysi pan ddaw'r addurniadau i lawr - pa argraff ydyn ni'n ei roi ganol mis Chwefror i rywun sy'n edrych ar ein heglwys o'r ffordd, wrth iddyn nhw agor y drws, wrth iddyn nhw gerdded o gwmpas, wrth iddyn nhw eistedd mewn sedd i brofi’r awyrgylch?
Bydd Croeso Cymru yn chwilio am fewnbwn gan y rheiny ohonom sy’n croesawu ymwelwyr i'n hadeiladau gwerthfawr - maen nhw bob amser yn chwilio am gynnwys ar gyfer eu hallbwn ac yn gallu helpu gyda hyn - felly rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau sydd gennych ar y gweill, gallai fod yn gyngerdd neu’n de parti, plannu coed neu lanhau'r ffynnon leol.
Maen nhw’n sefydlu gwefan i’r diwydiant https://diwydiant.croeso.cymru/cy a bydd ganddyn nhw erthygl nodwedd o’r enw "Wal Groeso" ar hafan Croeso Cymru - https://diwydiant.croeso.cymru/cy neu gallwch ebostio Croeso@llyw.cymru.
Cnoi cil: roedd ymwelydd diweddar o Loegr eisiau mynychu gwasanaeth eglwys wledig leol. Dywedwyd wrtho fod yr holl eglwysi o fewn 20 milltir yn cynnal eu gwasanaethau ar 1af a’r 3ydd Sul o’r mis. Enwodd yr 2il a'r 4ydd Sul yn Suliau Satan – does dim rhaid dyfalu pa benwythnos yr oedd yn aros, am groeso trist!