Straeon o Landyfân
Warden yr Eglwys, Andy Smart, yn ein hatgoffa bod croeso cynnes bob amser yn wych, lle bynnag mae'n digwydd.
Yn ystod fy ngyrfa, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweithio mewn llefydd rhyfedd a rhyfeddol i sefydliadau rhyfedd a rhyfeddol. Cefais un aseiniad o'r fath, a oedd ar gyfer sefydliad gwych ond mewn lle rhyfedd, wrth weithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Croatia a Bosnia.
Bydd y rheini ohonoch sy'n fy adnabod yn gallu dweud yn hawdd nad oeddwn i’n aelod o’r lluoedd arfog, ond yn sifiliad ac yn gweithio fel gwas sifil. Ac i’r rheini ohonoch sydd wedi bod i’r llefydd hyn, byddwch yn gwybod bod Croatia a Bosnia yn wledydd hardd, heb eu difetha ac eithrio gan greulondeb rhyfel.
Cyrhaeddais yno yn union fel yr oedd rhyfel y Balcanau yn dod i ben. Roedd yn rhy beryglus o hyd i fentro allan ar eich pen eich hun ac yn y ddwy wlad, roeddwn wedi fy lleoli mewn gwersyll milwrol, ymhlith ychydig iawn o sifiliaid, ac roedd pawb yn cael eu cludo i’r mannau roedd angen iddyn nhw fynd. Fel sy’n wir hyd heddiw ond i raddau mwy bryd hynny, roedd yna ffrwydron cudd wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y wlad ac felly roedd yn rhaid i chi fod yn ofalus iawn.
Ar wahân i'r gwaith, doedd dim llawer arall i'w wneud ac felly roeddech chi'n gweithio chwe diwrnod a hanner yr wythnos, gyda phrynhawniau Sul i ffwrdd yn unig. Gan nad oedd modd mynd i nunlle mewn gwirionedd, doeddech chi ddim wir yn edrych ymlaen at gael amser i ffwrdd gan na allech chi wneud rhyw lawer!
Uchafbwynt fy wythnos i, a’r rhan fwyaf o'r fyddin yn y gwersyll o be welwn i, oedd y cyfle i gael hoe er mwyn mynychu'r Eglwys dros dro ar y safle ar foreau Sul. Roedd y cyfle hwnnw am awr bob wythnos i ddod ynghyd ag eraill o bob rheng a chefndir yn arbennig iawn.
Roedd yr hen ystafell ddosbarth a ddefnyddiwyd fel Eglwys bob amser yn llawn dop a na, dydw i ddim yn credu eu bod nhw i gyd yno dim ond er mwyn osgoi eu dyletswyddau eraill neu gael paned a bisgedi am ddim! Y gymdeithas oedd yn dod â phawb ynghyd. Dwi’n credu bod Caplaniaid y Fyddin Brydeinig wir yn arwyr di-glod.
O feddwl am y peth, roedd y baned a'r gacen am ddim yn helpu hefyd, wrth gwrs, yn ogystal â'r gymdeithas a’r croeso cynnes i bawb bob amser. Yn ogystal â'r baned a'r bisgedi y mae llawer o’r eglwysi yn ein Hesgobaeth ein hunain yn eu darparu ar ddyddiau Sul, gadewch i ni obeithio ein bod yn cynnig y croeso a'r gymdeithas gynnes honno yr oeddwn i’n ei gwerthfawrogi gymaint ymhell o gartref.