Mwd, Mosgitos a Chenhadaeth
John Holdsworth yn gweld twf yn yr eglwys yn Affrica
Dwi yn Chad, un o'r deg gwlad dlotaf yn y byd. Mae ganddi olew ond mae’r isadeiledd gwael, y newid yn yr hinsawdd a’r gwrthdaro yn golygu nad yw'r Chadiaid yn gweld fawr o fudd. Dyma'r tymor glawog. Mae llifogydd ym mhob man, gan ei gwneud hi’n amhosibl teithio ar hyd y ffyrdd trol (yn bennaf) ac mae hynny’n creu dŵr llonydd sy’n fagwrfa i filiynau o fosgitos. Mae'n 30 gradd yn ôl fy ap, a’r lleithder yn 98%. Dwi ddim yma ar wyliau felly.
Dwi yma ar gyfer Synod Esgobaeth Anglicanaidd (gymharol newydd) Gogledd Affrica, sy’n gymysgedd o Gynhadledd ac Ysgol. Mae brwdfrydedd dros yr Eglwys yn Chad yn rhyfeddol ac mae'n tyfu'n gyflym. Yma maen nhw’n cydnabod tri cham yn nhwf yr eglwys. Y cyntaf yw'r plannu, ac yn y gynhadledd mae yna 27 o ddynion a menywod sy'n ddarpar blanwyr, yn bobl leyg ac wedi'u hordeinio. Bydd pob un ohonyn nhw’n plannu eglwys fel rhan o'u cwrs. Nod yr Esgobaeth yw plannu 40 o eglwysi cyn diwedd y flwyddyn nesaf. Y cam nesaf yw'r Ganolfan Cenhadaeth, ond dim ond pan fydd 100 ar y Gofrestr Etholwyr a chyfartaledd presenoldeb y Sul yn 60 o oedolion o leiaf dros gyfnod o chwe mis y gall y gynulleidfa fod â statws Eglwys, gydag arweinyddiaeth ordeiniedig a lleoedd ar y Synod. Faint o eglwysi fyddai yn Nhyddewi ar y sail honno?
Mae stiwardiaeth yn ganolog i'r cyflwyniadau a'r hyfforddiant. Dim ond eglwysi hunangynhaliol fydd yn goroesi. Degymu yw'r math mwyaf cyffredin o godi arian - a hynny gan bobl heb fawr o arian i fyw arno.
Cynhelir Cymun y Synod yn Eglwys Sant Pedr yn 'Ndjamena. Adeilad yng ngardd rhywun ydyw, sy'n edrych ychydig fel garej ddwbl heb ei orffen. Yma mae tua 70 o bobl yn ymgynnull wrth i'r Esgob ddathlu, ac mae esgob gwadd Yassir Eric, cyn-Fwslim, yn traddodi pregeth ardderchog yn disgrifio sut y cafodd dröedigaeth i Gristnogaeth.
Mae cenhadaeth yn aml yn dechrau gyda gweithredu cymdeithasol. Dechreuwyd eglwys yn Klessoum, ar gyrion y ddinas, trwy ddarparu pwmp dŵr. Mewn mannau eraill mae gan yr Esgobaeth gynlluniau mawr ar gyfer cyfleusterau addysgol. Yn y brifddinas, mae tir wedi'i gaffael ar gyfer campws eglwys gadeiriol sylweddol, a fydd yn cynnwys ysgol.
Ystyriwyd bod ein llety mewn Canolfan Encil Gatholig yn weddol foethus o gymharu â safonau lleol ond byddai'r rhan fwyaf o orllewinwyr wedi cael traed oer wrth orfod lladd a chlirio pla o chwilod a chwilod duon bach cyn dadbacio. Cafodd tri o bobl eu taro’n sâl gan falaria yn ystod ein harhosiad. Roedd y cyflenwad trydan a dŵr yn ysbeidiol. Ond roedd yn brofiad gwych.
Pan fydd gan Chad saith eglwys sy'n hunanariannu am gyfnod o dair blynedd, gall ddod yn Esgobaeth ar wahân. Fyddan nhw fawr o dro.