Gem Bach
Saint Sawyl, Llansawel
Ychydig filltiroedd i'r gogledd o Dalyllychau yn Sir Gaerfyrddin, ar gyrion Coedwig Brechfa, mae tref Llansawel yn swatio – roedd unwaith yn dref farchnad brysur ar lwybrau'r porthmyn ac yn gartref i saith tafarn. Efallai mai dyma’r rheswm pam mae hen eglwys y plwyf Sant Sawyl mor helaeth!
Mae’r eglwys yn sefyll yn dalsyth o fewn mynwent hirgrwn, ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II gyda thŵr amlwg 70% o adeiladwaith craidd canoloesol a chredir bod y safle yn cael ei ddefnyddio at ddibenion crefyddol cyn y goncwest. Roedd yr eglwys yn bodoli yn ystod y 14eg ganrif ac mae dogfennau a gyhoeddwyd gan Frenin Edward III [1312 i 1377] yn cyfeirio at "Chapel" Pistyll Sawy ond roedd wedi dod yn eglwys y plwyf erbyn 1833.
Fe’i rhestrwyd ar sail ei lansedau canoloesol a thŵr gorllewinol, goroesodd waith adfer mawr yn 1887-1890 ac mae ganddi doeau llechi serth gyda thalcenni corbelog a therfyniadau croes. Mae'r cynllun yn cynnwys cangell dau olau, corff tri golau a thŵr gorllewinol tri llawr. Mae bwa dau ganol plaen y gangell yn ganoloesol ac ar y naill ochr a'r llall mae ysbiendwll sgwâr plaen. Mae'r wal orllewinol yn cynnwys cawg, a ddarganfuwyd yn rhan o’r wal yn 1887 ac a symudwyd i'w leoliad presennol, ac mae o bosibl wedi'i addasu; mae ganddo fowlen sgwâr blaen mewn gronelltfaen llwyd siamffrog. Mae gan y drws gorllewinol ben plaen, dau ganol o tua 1500.
Fe'i cyhoeddwyd yn 1889 gan Fred Price, a dywedodd “The old parish church stood where it does today, but its pews were at one time deep enough to conceal the sitters from all eyes below, and naps might be taken without scandalising anybody. The pews were painted light and became a source of sore temptation to every man and woman whose turn of mind was artistic and poetic, rather than pious and devotional, and ample was the testimony presented by the interior of the pews as to how numerous were the instances in which the victim succumbed to the temptations to leave the liturgy, to neglect the pulpit and take to his pencil, then sketch and write to his heart's content on the pews.” Cysgu a thynnu lluniau ar y corau?? Beth nesaf!!
Gallech fynd ar daith ddymunol drwy ymweld â Sant Teilo yn Llandeilo, Talyllychau a’r Abaty ac eglwys y plwyf Sant Mihangel drws nesaf, Sant Sawyl yn Llansawel, a Sant Teilo ym Mrechfa [yn anffodus mae Dewi Sant Abergorlech wedi cau]. Mae'r eglwys yn cynnal dau wasanaeth y mis ar y Sul 1af a’r 3ydd, am 11am. Mae’r eglwysi ar gau ond gellir trefnu mynediad drwy gysylltu â warden yr Eglwys sef Paul Kincaid ar 01558 685 029.
Os ydych chi'n credu bod eich eglwys yn un o’r Gemau, cysylltwch â Caroline ar carolineevans1@yahoo.co.uk neu 01267 202 305