Santes Fair
Roedd diwedd mis Medi yn gyfnod prysur yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth.
Ar fore Sul 23ain Medi, cawsom gyfle i ddathlu hanner can mlynedd o weinidogaeth ordeiniedig y Parchedig Ganon Michael Lloyd Rees, aelod ffyddlon o’r eglwys.
Yn enedigol o Lanelli, ordeiniwyd Michael yn Nhyddewi ar 21 Medi 1974 gan Yr Esgob Eric Roberts. Fe fu’n gwasanaethu fel Curad gyda’r Canon Alfred Joseph Davies yn Aberteifi gyda Mwnt a’r Ferwig a chael ei gomisiynu fel Is-Ganon yn Nhyddewi yn 1977. Fe fu’n gweinidogaethu hefyd yn Henfynyw, Aberaeron a Llanddewi Aberarth ynghyd â nifer eraill o blwyfi eraill yn ystod ei weinidogaeth. Cafodd ei gomisiynu yn Ganon yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 2009 cyn ymddeol yn 2015.
Wel, ydy ficeriaid byth yn ymddeol yn llwyr? Wel, nid Michael! Mae e’n parhau i gynorthwyo yn Ardal Weinidogaeth Leol (AWL) Aberystwyth a hefyd mewn llefydd mwy egsotig na gorllewin Cymru! Mae e’n locum yn Esgobaeth Ewrop mewn llefydd megis Tenerife, Costa Almeria, Costa Del Sol, Lanzarote, a Madeira.
Rydym fel eglwys ac fel AWL yn llongyfarch Michael ar gyrraedd hanner canrif o wasanaeth ffyddlon i’r Arglwydd a dymunwn bob bendith arno ar gyfer y dyfodol. Roedd yn braf cael dathlu gyda thê a chacen yn yr eglwys.
A’r Sul wedyn, 30ain Medi, comisiynwyd Jamie Medhurst fel Arweinydd Addoliad yn yr AWL (ac Eglwys St Mair yn arbennig) gan Archddiacon Aberteifi, Yr Hybarch Eileen Davies. Mae Jamie yn Warden yn yr eglwys ac hefyd yn helpu ar yr organ o bryd i’w gilydd. Yn ei waith bob dydd mae e’n Athro Ffilm a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond ers tro mae wedi teimlo galwad i wasanaethu yn yr eglwys. Mae Jamie wedi cael taith eciwmenaidd iawn yn ystod ei fywyd … yn fedyddiwr yn ei ddinas enedigol, Casnewydd, wedyn yn ymuno â’r Annibynwyr pan ddaeth fel myfyriwr i Aberystwyth yn 1986. A bellach, wedi conffyrmasiwn yn 2019, yn Anglican balch iawn.
Mae Jamie yn arwain ac yn pregethu yn St Mair pan fo ficer yr egwlys (a’r Deon Ardal, y Parchedig Ganon Mark Ansell) methu bod yn bresennol ac mae’n cymryd gwasanaethau boreol weddi yn eglwys San Mihangel bob bore Llun hefyd.
Mae’r eglwys a’r AWL yn dymuno pob bendith ar waith Jamie yn Aberystwyth.
Gyda llaw, does dim cyfle i aelodau’r eglwys orffwys – gyda noson Plygain at 11eg Rhagfyr a gwasanaeth carolau i ddysgwyr ar 15fed Rhagfyr, mae ‘na ddigon i gadw pawb ar flaenau’u traed yn Eglwys St Mair!