O Orllewin Cymru i Walsingham
Adroddiad Mary Rees ar daith flynyddol lwyddiannus arall i gysegrfa East Anglia
Roedd ein pererindod yn 2024 yn un hapus dros ben a chawsom gryn foddhad yn ysbrydol a chymdeithasol. Dyma ddyddiadur byr iawn o bum diwrnod hyfryd a dreuliwyd yno.
- Dydd Llun 16 Medi - Teithiodd ein grŵp o Lanelli yn un o fysiau moethus Gwynne Price! Mae bob amser yn bleser cyrraedd y gysegrfa a chael ein hamgylchynu ar unwaith â heddwch a harddwch Nasareth, Lloegr.
- Dydd Mawrth 17 Medi - Diwrnod prysur o'n blaenau! Ar ôl y Foreol Weddi cafwyd brecwast blasus a'n Gorsafoedd y Groes yn ddwyieithog. Cinio ac yna taith yn y prynhawn i Wells next to the Sea. Ar ôl swper am 6.30pm cafwyd Gwasanaeth Iacháu pwerus a synhwyrus y Gysegrfa.
- Dydd Mercher 18 Medi - Heddiw roedd cyfle i gerdded y Filltir Sanctaidd i'r Gysegrfa Gatholig Rufeinig (gan ddilyn ôl troed Harri VIII). Ar ôl swper cafwyd y Fendith a'n gorymdaith lawen o amgylch y tir - yn y tywyllwch yng ngolau cannwyll.
- Dydd Iau 19 Medi - Gwibdaith! Eleni, cawsom ddiwrnod pleserus heulog braf iawn yn Cromer gyda llond gwlad o frechdanau cranc!! Ar ôl swper cynhaliwyd darlith flynyddol y Tad Philip Wyn Davies cyn ein cyfarfod cymdeithasol olaf yn Ystafell Norton.
- Dydd Gwener 20 Medi - Mae'r amser wedi hedfan a heddiw yw ein diwrnod olaf yma. Yn anffodus, rydyn ni'n gadael am adref ond profwyd bendith a chawsom amser bendigedig. Cyn gadael rydyn ni’n cadw ein lleoedd ar gyfer pererindod y flwyddyn nesaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod gyda ni, cysylltwch â mi ar 07947985191 neu maryevanrhys@hotmail.co.uk Ein prif offeiriad yw’r Tad Adrian Furze. Rydyn ni bob amser yn falch o groesawu pererinion newydd. Croeso mawr!