Cyfeillion o bell
Y mae Canon John Gravell yn cofio croesawu i’w gartref ymwelwyr o wledydd pell.
Dros bedwar degawd cafodd Morfudd a minnau y fraint o groesawu i’n cartref nifer o weithwyr yr Arglwydd, - o genhadon ac ‘furlough’, siaradwyr gwâdd mewn cynadleddau yn yr Esgobaeth, i Gristnogion brodorol o wahanol wledydd. Cyfoethogodd pob un ohonynt ein bywydau.
Dau ymweldd sydd yn dal i aros yn fy nghof gyda chryn hoffter yw y ddau a ddaeth atom i Landybie ym mis Medi 1997, sef y Parchedig Aboi Atchi, offeiriad ifanc o Kaduna yn Nigeria, ac Andrew, gweithiwr ieuenctid yn Eglwys Esgobol Suda. Roedd ganddo wraig a phedwar o blant, a ganwyd un arall yn union wedi iddo fynd adre. Buom yn dal i bryderu am Andrew a’i deulu dros llawer blwyddyn wedyn, gan fod sut derfysg yn y Sudan, a gelyniaeth yn erbyn Cristnogion. Y mae Aboi erbyn hyn yn Archddiacon yn Esgobaeth Zaria yn Nhalaith Kduna o Eglwys Anglicanaidd Nigeria, ac yn ddarlledydd cyson ar gyfryngau yr Esgobaeth yno.
Daeth y ddau ohonynt i Brydain i gynrychioli eu heglwysi mewn Cynhadledd Ieuenctid Anglicanaidd . Lleolwyd rhai o’r cyfarfodydd yng Ngholeg Llambed, ac fe ofynwyd i rai yn yr Esgobaethau yng Nghymru i roi llety i’r cynrychiolwyr.
Bu cwmni Aboi ac Andrew yn un bendithiol iawn i ni, ac fe erys yn fy nghof gynheswrydd eu cwmni, a didwylledd eu ffydd. Yr oeddent yn siomi at y cyfeiriadau yr oedd Anglicaniaeth y Gorllewin yn gwyro, cyfeiriadau sydd wedi agor agendor rhwng Anglicaniaid y Gorllewin ag Eglwysi Anglicanaidd y De ( y Global South). Gwelwn y tristwch mawr yn eu calonnau, wrth iddynt ddod yn ôl o ambell sesiwn yn Llambed.
Rwyn meddwl bod moethusrwydd bywyd y gorllewin wedi eu cyffwrdd. Cofiaf fynd â nhw i barbeciw oedd wedi ei drefnu iddynt, a gweld eu syndod wrth edrych ar y stêcs, selsig a’r byrgyrs oedd yn cael eu coginio ar hen lif gron wedi gosod uwchben tân golosg. Dogn ddigon cymhedrol cymerodd y ddau ar eu platiau, er gwaethaf y cymhelliad i’w llenwi. Beth aeth drwy eu meddyliau, wrth weld carnifors cigysol cefn gwlad yn claddu cynnyrch gorau eu caeau!
Cafodd Aboi ac Andrew hefyd y cyfle i brofi galar cenedl, gan mai dyma gyfnod marwolaeth trasig y Dywysoges Diana. Heb gyfarfodydd ar ddiwrnod yr angladd, buont yn eistedd gyda ni a gwylio’r teledu mewn tŷ tawel iawn.
Ond yr uchafbwynt i mi oedd y gwasanaeth arbennig yn Eglwys Sant Marc, Cwm Coch ar brynhawn Sul. Bu’r ddau yn rhan o’r oedfa, yn cynnwys pedair iaith, Cymraeg, Saesneg, Housa ac Arabeg. Bu’n gyfle iddynt gyfarfod aelodau cylch Llandybie, ac yn ffarwel addas i’r ddau.
Diolchaf am eu cwmni a’r atgofion. Bydded parhâd ar eu gwaith a’u gweinidogaeth, a bendith arnynt a’u teuluoedd.