Ffydd, cyllid a theuluoedd
Roedd y gynhadledd eleni’n cynnwys rhai themâu cyfarwydd a rhai newydd.
Cyfarwydd: Cyllid – Adroddodd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth gynlluniau i bennu cyllideb ddiffyg arall ar gyfer 2025, o £168,000. Dywedodd yr Is-gadeirydd Tim Llewelyn wrth y gynhadledd mai dim ond 51% o’r Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol a oedd wedi talu eu cyfran lawn i’r weinidogaeth. Ysgogodd hyn yr Archddiacon Mones Farah i gyflwyno cynnig brys yn galw ar Gorff y Cynrychiolwyr i ddarparu mwy o gymorth ariannol i bob esgobaeth; rhywbeth, meddai, y gallent fforddio ei wneud yn hawdd. Cafodd y cynnig ei basio gan fwyafrif llethol a bydd y Pwyllgor Sefydlog nawr yn drafftio cynnig addas i'w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol fis Ebrill nesaf.
Newydd: Blwyddyn Plant a Theuluoedd – Cyflwynodd y Parchedig Sophie Whitmarsh, y Cenhadwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd, gyfres o gyflwyniadau ar thema'r esgobaeth ar gyfer 2025, sy'n dechrau ar Sul yr Adfent eleni. Bydd y lansiad swyddogol yn cael ei gynnal yn yr eglwys gadeiriol ym mis Rhagfyr, a chyhoeddir cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ym mhob cwr o’r esgobaeth.
Mae digwyddiadau wedi'u cynllunio ledled yr esgobaeth – ym mhob archddiaconiaeth – gan gynnwys cynyrchiadau’r Dioddefaint adeg y Pasg, gwyliau, cynhadledd aml-ffydd a rhyngenwadol, o bosib hyd yn oed pantomeim esgobaethol; pob un ohonynt yn cael eu cefnogi gyda sesiynau hyfforddant ac adnoddau rheolaidd. Bydd cymorth hefyd i Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol sy'n dymuno datblygu eu prosiectau eu hunain. Heb anghofio’r bererindod ieuenctid flynyddol wrth gwrs.
Ond pwysleisiodd y Parchedig Sophie na allai wneud hyn i gyd ar ei phen ei hun. "Dwi angen eich help chi," meddai. "Mae angen gweddi arna i - allwn ni ddim gwneud dim heb weddi. Hefyd, mae angen lleoliadau arna i ac mae angen pobl (gwirfoddolwyr) arna i i helpu i wneud i hyn i gyd ddigwydd."
Bydd diweddariadau rheolaidd drwy gylchlythyr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd (CYF) a thrwy wefan CYF (www.stdavidscyf.org.uk). Gweler P.? am ragor o wybodaeth.
Cyfarwydd (ac eto'n newydd hefyd)
Yn ei anerchiad llywyddol cyntaf, dechreuodd yr Esgob Dorrien drwy gyfeirio at "yr eliffant yn yr ystafell" - cyfran y Weinidogaeth. Cyfeiriodd at ddiwylliant o beidio â thalu, osgoi rhai taliadau a drwgdybiaeth a bydd angen i hyn i gyd newid, meddai.
"Os ydyn ni'n dilyn y duedd bresennol yma," rhybuddiodd, "mae'n ddigon posib y gallai'r esgobaeth fod yn fethdalwr o fewn pum mlynedd."
Ond ychwanegodd y gellir goresgyn y trafferthion hyn. "Heddiw, gyda'n gilydd, gallwn ysbrydoli newid cadarnhaol yn ein hesgobaeth," meddai. "Mae newid yn anochel, a byddwn yn cael ein heffeithio. Ein her yw sut rydym ni’n ei gofleidio ac yn gwneud iddo weithio i ni."
Gan ddyfynnu Billy Graham, dywedodd yr Esgob mai gobaith yw ein prif angen. "Mae gobaith Duw," meddai, "yn ein hannog, yn ein cymell ac yn ein cadw ar y llwybr cywir at ffydd, heddwch a buddugoliaeth."