Ffydd ac Ofn: pan fo Cristnogaeth yn drosedd
Elusen yw Open Doors, sy'n gweithio’n ddygn mewn gwledydd lle mae bod yn Gristion yn gallu achosi trafferthion difrifol i chi. Jim Stewart yw Rheolwr Cysylltiadau Eglwysig Cymru.
Bob blwyddyn, ym mis Ionawr, bydd Open Doors yn cyhoeddi World Watch List. Mae’r rhestr yn nodi’r 50 gwlad mwyaf anodd yn y byd i fod yn Gristion; Gogledd Korea sydd ar frig y rhestr yn 2024 – yno, mae dim ond bod yn berchen ar Feibl yn ddigon i’ch dedfrydu i garchar.
Dyma’r 31ain rhestr, sy’n cwmpasu’r deuddeg mis o Hydref i Hydref. Bydd holiaduron yn cael eu llenwi gan bartneriaid lleol i greu darlun o sefyllfa bywyd bob dydd i Gristnogion.
Dyn ifanc o'r Iseldiroedd o’r enw y Brawd Andrew ddechreuodd Open Doors yn 1955.
Pan oedd mewn coleg Beiblaidd yn Glasgow, clywodd am gyngres ieuenctid gomiwnyddol fyd-eang a oedd i’w chynnal yng Ngwlad Pwyl. Taniwyd ei ddiddordeb. Roedd ganddo ddigon o wybodaeth am yr eglwys yn y gorllewin ond ychydig iawn a wyddai am yr eglwys y tu ôl i'r Llen Haearn yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop.
Ysgrifennodd at y trefnwyr a gofyn a fyddai modd iddo fynychu, gan bwysleisio mai fel Cristion y byddai’n mynd yno. Cafodd Andrew ateb yn ôl yn ei groesawu.
Pan oedd Andrew yno, cyfarfu â Christnogion a bu’n ymweld ag eglwysi. Gwelodd fod Cristnogion ffyddlon i Dduw yng Ngwlad Pwyl ond roedden nhw’n brin iawn o Feiblau ac yn teimlo'n ynysig.
Dyma pryd yr agorodd llwybr gwaith ei fywyd, "cryfhau'r hyn sydd ar ôl gennyt, sydd ar ddarfod amdano" (Datguddiad 3:2). Heddiw, mae Open Doors yn gweithio mewn dros 60 o wledydd ledled y byd, gan weithio gyda phartneriaid lleol i gefnogi Cristnogion sy'n wynebu erledigaeth a gwahaniaethu. Wrth wraidd ein DNA mae'r argyhoeddiad na ddylai unrhyw Gristion sy'n cael ei erlid wneud hynny ar ei ben ei hun.
I ddechrau, roedd Open Doors yn canolbwyntio ar smyglo Beiblau i gredinwyr mewn gwledydd y tu ôl i'r Llen Haearn. Gydag amser, ac wrth weld natur erledigaeth Gristnogol yn newid, newidiodd ein gwaith a bellach rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarparu amrywiol wasanaethau. Mewn gwledydd lle mae Cristnogion wedi'u hynysu, er enghraifft, rydyn ni'n trefnu gwersylloedd haf i blant Cristnogol ddod at ei gilydd a chael hwyl wrth ddysgu am y Beibl.
I gael gwybod mwy am waith Open Doors, ewch i'n gwefan: https://www.opendoorsuk.org/ lle gallwch archebu copi o'r Watch List yn rhad ac am ddim. Os hoffech gael rhywun o Open Doors i siarad yn eich eglwys, gallwch anfon e-bost at Jim: jims@opendoorsuk.org.
Yn y misoedd i ddod, bydd Pobl Dewi yn canolbwyntio ar rai o'r gwledydd lle mae bod yn Gristion - am amryw o resymau – yn beryglus; lle mae ffydd ac ofn yn gymdeithion cyson.